90 mlynedd yn ôl

Richard E Huws, Y Faner, Rhagfyr 3, 1982

Rhydd saith can mlwyddiant marwolaeth Llywelyn ap Gruffydd, 'Y Llyw Olaf', gyfle amserol i ddwyn ar gof gystadleuaeth bapur newydd dra anarferol a gynhaliwyd bron ddeng mlynedd a thrigain yn ôl.

Ym 1913 cynigiodd David Alfred Thomas (yr Is-Iarll Rhondda yn ddiweddarach), perchennog gweithfeydd glo, a gwleidydd adnabyddus, gwrdd â holl gostau paratoi a gosod cerfddelwau o ddeg Cymro enwog i addurno Neuadd Ddinesig Caerdydd, adeilad a godwyd ym Mharc Cathays ym 1905.

Y safonau uchaf Bwriadwyd comisiynu cerflunwyr amlwg i gyfrannu at y cynllun, gyda'r nod deublyg o goffau arwyr cenedlaethol, ac ar yr un pryd arddangos gwaith yr artistiaid cyfoes mwyaf blaenllaw. I sicrhau'r safonau uchaf posibl, penderfynwyd y dylid defnyddio Serravezza, marmor o'r Eidal a gydnabyddir ymhlith goreuon y byd.

Rhoddwyd y cyfrifoldeb nid ansylweddol o ddewis pa ddeg Cymro (cyn teyrnasiad y Frenhines Fictoria) a fyddai'n deilwng o gael eu cynnwys yn yr oriel ar ysgwyddau tri beirniad, yr Athro Thomas Powel, Syr Thomas Marchant a Llewelyn Williams, A.S. Ac i feithrin diddordeb yng nghynllun haelionus D. A. Thomas, trefnodd y 'Western Mail' gystadleuaeth trwy wahodd darllenwyr i lunio rhestr o'u dewisiadau, a chynigiwyd gwobr o £20 i'r sawl a fedrai gyflwyno rhestr a fyddai'n cyfateb â dewis y beirniaid.

Ni bu ymateb y cyhoedd yn ysgubol, ond er hynny derbyniwyd cyfanswm o 354 o gynigion yn rhestru dros 250 o wrthrychau teilwng. Rhaid cydnabod yr angen am sampl ehangach a mwy gwyddonol na hyn i gynrychioli rhywbeth sy'n agos at bôl piniwn o fesur poblogrwydd ein henwogion cenedlaethol.

Ond, er hynny, mae dadansoddiad syml o enwebiadau'r cystadleuwyr yn rhoi awgrym i ni o statws ein harwyr traddodiadol ar ddechrau'r ganrif hon. Ffefryn amlwg y darllenwyr ar yr adeg honno oedd Owain Glyndŵr a dderbyniodd 295 o enwebiadau, ac mae rhestr o'r pleidleisiau a fwriwyd dros y prif gymeriadau yn werth ei hail-gyhoeddi gan ei bod nid yn unig yn ddogfen ddiddorol ynddi ei hun, ond saif yn ogystal fel llinyn i fesur dilysrwydd dewis annibynnol y beirniaid:

  1. Owain Glyndŵr 295
  2. Hywel Dda 231
  3. Dewi Sant 221
  4. Yr Esgob William Morgan 221
  5. Llywelyn Fawr 201
  6. Dafydd ap Gwilym 197
  7. Williams Pantycelyn 154
  8. Llywelyn ein Llyw Olaf 145
  9. Griffith Jones 137
  10. Gerallt Gymro 124
  11. John Parry 123
  12. Thomas Charles 114
  13. Howel (1) Harris 91
  14. Caradog 82
  15. Arthur 60
  16. Daniel Rowland 56
  17. Rhys Pritchard 53
  18. Goronwy Owen 50
  19. Y Cadfridog Picton 49
  20. Richard Wilson 45
  21. Owain Gwynedd 44
  22. Harri VII 36
  23. Gruffydd ap Cynan 34
  24. Ann Griffiths 32
  25. Yr Arglwydd Rhys 30
  26. Gwenllian 26
  27. Buddug 24

O blith y deg a dderbyniodd y cyfanswm mwyaf o enwebiadau gan ddarllenwyr y 'Western Mail' dewiswyd wyth ohonynt gan y beirniaid i'w coffâu yn oriel yr anfarwolion. Nid oedd cymaint o olwg ganddynt ar Lywelyn Fawr a Griffith Jones, Llanddowror, ac yn groes i'r farn gyhoeddus gosodwyd Harri VII a'r Cadfridog Picton yn eu lle.

Fel y gellid dychmygu nid oedd y dewis terfynol wrth fodd pawb, ac adlewyrchwyd hyn yn y ffaith na lwyddodd yr un cystadleuydd i gyflwyno rhestr a gytunai'n union â'r un a luniwyd gan y beirniaid. (Ymhlith y cyd-fuddugwyr roedd y diweddar W. W. Price, yr hanesydd lleol o Aberdâr).

Beirniadaeth

Yn sgil dewisiad dadleuol y beirniaid bu cryn ohebu mewn papurau newydd cyfoes, ac ymhlith yr enghreifftiau nodweddiadol ceir sylwadau yn y 'Liverpool Daily Post', 31 Gorffennaf, 1913, gan ŵr dienw a feirniadodd gynnwys Harri VII yn yr oriel "am y gellid yn hawdd ei alw'n Ffrancwr", a theimlodd hefyd, gyda thipyn o gyfiawnhad, "fod Griffith Jones wedi gwneud llawer mwy dros Gymru na Syr Thomas Picton".

Roedd T. Roberts, gŵr o Fôn, yn fwy plwyfol yn ei gondemniad wrth gwyno nad oedd lle i Fonwysion amlwg fel John Elias, Lewis Morris a Goronwy Owen yn yr oriel farmor.

Bu cynllun D. A. Thomas ddwy flynedd cyn ei gwblhau, ac amcangyfrifir iddo dalu dros £10,000 i'w wireddu. Ffigur canolog Oriel Cerfddelwau Hanes Cymru yw Dewi Sant, gan Syr W. Goscombe John, R.A. Ar un ochr i'r grisiau ceir delwau o Lywelyn ein Llyw Olaf, gan Henry Pegram; Harri VII, gan E. C. Gillick; Owain Glyndw^r, gan Alfred Turner; Syr Thomas Picton, gan T. Mewburn Crook, a William Williams, Pantycelyn, gan L. S. Merrifield.

Ar yr ochr arall ceir delwau Hywel Dda, gan F. W. Pomeroy; Dafydd ap Gwilym, gan W. Wheatley Wagstaff; Gerallt Gymro, gan Henry Poole, a'r Esgob William Morgan, gan T. J. Clapperton. Er mwyn sicrhau cyfiawnder â'r rhyw deg ychwanegwyd delw o Fuddug, o waith J. Havard Thomas, at y deg gŵr a ddewiswyd gan y beirniaid.

Ped estynnid y cyfnod hyd at y presennol tybed pa ddeg Cymro a ddewisai darllenwyr 'Y Faner' i'w hanfarwoli mewn modd cyffelyb?

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru