Amodau a Thelerau

  1. Mae'r wefan hon yn cael ei chynllunio a'i chynnal gan Culturenet Cymru, cwmni cyfyngedig preifat nid-er-elw sydd â'i swyddfa gofrestredig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3BU.
  2. Mae Culturenet Cymru yn cadw'r hawl i amrywio, newid, cyfnewid neu ddileu gwybodaeth o'r Wefan hon heb rybudd.
  3. Bydd Culturenet Cymru yn gwneud ei orau i ddarparu mynediad di-dor i'r Wefan hon, ond gall mynediad gael ei ohirio, ei gyfyngu neu ei ddileu ar unrhyw adeg.
  4. Nid yw Culturenet Cymru yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol y gellir cysylltu â hwy o'r Wefan hon.
  5. Culturenet Cymru sydd yn berchen ar hawlfraint y deunydd ar y Wefan hon, ynghyd â chynllun y Wefan, y testun a'r gwaith graffig, ac mae'r modd y cawsant eu dethol a'u trefnu, a'r holl grynoadau meddalwedd, côd ffynhonnell sylfaenol a meddalwedd (gan gynnwys 'applets') yn eiddo i Culturenet Cymru neu'r sawl sydd wedi darparu'r wybodaeth honno. Ni ellir atgynhyrchu neu ailddosbarthu'r cynnwys heb dderbyn ein caniatâd ysgrifenedig.
  6. Er eich bod yn cadw hawlfraint unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei chyfrannu at y Wefan hon, rydych hefyd yn rhoi caniatâd unigryw byd-eang, di-freindal, di-derfyn i Culturenet Cymru ddefnyddio, copïo, dosbarthu, cyhoeddi a throsglwyddo'r wybodaeth honno mewn unrhyw fodd. Rydym yn ymrwymo i beidio â chynnig neu gyflenwi unrhyw wybodaeth a gyflwynwyd i'r safle hwn gan drydydd person ar gyfer unrhyw bwrpas arall ac eithrio at ddefnydd Culturenet Cymru neu 100 o Arwyr Cymru.
  7. Mae Culturenet Cymru yn ymrwymo i wneud pob ymdrech posibl i sicrhau bod yr wybodaeth ar y Wefan hon yn gywir ac i gywiro unrhyw gamgymeriadau neu ddiffygion cyn gynted ag y bo modd ar ôl i'r materion hynny gael eu dwyn i'w sylw. Mae Culturenet Cymru yn monitro yn achlysurol yr wybodaeth y mae'n ei derbyn gan drydydd person ar gyfer ei phostio ar y Wefan. Dylech fod yn ymwybodol nad yw gwybodaeth o'r fath sydd yn cael ei chyflwyno yn cael ei gymeradwyo gan Culturenet ac nad yw'r wybodaeth honno yn gywir, yn gyflawn neu'n gyfoes. Hyd eithaf yr hyn sy'n cael ei ganiatâd gan y gyfraith, mae Culturenet Cymru yn gwadu pob gwarantiad a datganiad (pa un ai ydynt yn ddiamwys neu'n cael eu hawgrymu) ynghylch cywirdeb unrhyw wybodaeth sy'n cael ei chynnwys ar y Wefan hon. Nid yw Culturenet Cymru yn gwarantu na fydd y Wefan yn cynnwys unrhyw wallau ac ni fydd yn atebol am unrhyw gamgymeriadau neu ddiffygion.
  8. Nid yw Culturenet Cymru yn gwarantu bod y Wefan hon yn rhydd rhag unrhyw firys neu unrhywbeth arall a allai gael effaith ddinistriol ar unrhyw dechnoleg.
  9. Nid yw Culturenet Cymru yn atebol am unrhyw wybodaeth a dderbyniwyd ar gyfer ei harddangos ar y Wefan hon ac mae'r cyfyngiadau a nodir yn amod 4 (eithriadau atebolrwydd) yn gymwys. Os ydych yn cyflwyno gwybodaeth ar gyfer ei harddangos ar y Wefan hon rydych yn gyfrifol am sicrhau bod yr wybodaeth honno yn gywir, yn gyflawn ac yn gyfoes, ac hefyd am ddiweddaru'r wybodaeth honno os bydd angen. Os ydych yn cyflwyno gwybodaeth i'w harddangos ar y Wefan hon rydych yn gyfrifol am sicrhau na fydd unrhyw wybodaeth a chaiff ei lwytho yn gelwyddog, yn ddifenwol, yn anweddus neu'n sarhaus neu'n annerbyniol am unrhyw reswm arall neu yn mynd yn groes i unrhyw gyfreithiau neu hawliau trydydd person. Rydych yn gwarantu eich bod wedi cymryd pob gofal posibl i sicrhau bod unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei llwytho neu yn ei chyflwyno i'r Wefan hon yn rhydd rhag unrhyw firys neu unrhyw beth arall a allai heintio neu gael effaith ddinistriol ar unrhyw ran o'r Wefan hon neu unrhyw dechnoleg arall. Mae Culturenet Cymru yn cadw'r hawl i ddileu unrhyw ddeunydd tramgwyddus a roddir ar y Wefan hon ac a ystyrir gennym fel camddefnydd o'r Wefan hon neu sydd yn niweidiol i ddefnyddwyr eraill y Wefan hon.
  10. Byddwch yn digolledu Culturenet Cymru ar ein gorchymyn am unrhyw hawliad neu golled (gan gynnwys colled ariannol, diderfyn) a brofir gan Culturenet Cymru o ganlyniad i'ch methiant i gadw at unrhyw un o delerau'r amod hwn.
  11. Mae'r amodau a'r telerau hyn yn cael eu rheoli gan a'u dehongli yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfodau yn atebol i awdurdod neilltuol Llysoedd Cymru a Lloegr.

Cystylltwch â ni

Cyfeiriad
Culturenet Cymru Cyf
d/o Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3BU

Ffôn 01970 632500
www.culturenetcymru.com

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru