Gweithgaredd dysgu 5: Cymraeg a Saesneg - ysgrifennu
Bydd cyfleoedd ysgrifennu mawr yn dilyn o weithgareddau 2, 3 a 4. Dyma nifer bychan yn unig o awgrymiadau:
Ysgrifennu ffeithiol:
- Gellir ysgrifennu grynodeb o drafodaeth y dosbarth yn nodi'r amrywiaeth barn a fynegwyd.
- Gellir ysgrifennu llythyr er mwyn dwyn perswâd ar rywun sydd â barn i'r gwrthwyneb â'r ysgrifennydd er mwyn newid eu meddyliau
- Gellir ysgrifennu erthygl papur newydd ynglŷn â gweithgaredd chwaraeon i ferched
- Gellir ysgrifennu llythyr dosbarth at bapur newydd (lleol a chenedlaethol) yn tynnu sylw at y gwahaniaeth yn y sylw a roddir i chwaraeon gwrywaidd a benywaidd, ac yn gofyn am eu sylwadau
Ysgrifennu ffuglen:
- Ysgrifennu stori dylwyth teg neu 'chwedl werin' newydd yn defnyddio stereoteip rhyw a iaith draddodiadol.
- Ysgrifennu creadigol sy'n gwrth-droi y rolau rhyw arferol mewn stori dylwyth teg neu chwedl werin.

