Beth sy'n gwneud arwr?
Ceir sawl gwahanol farn ar beth sy'n gwneud arwr. Ond mae'n siŵr y byddai'r rhan fwyaf yn cytuno ar y pwyntiau canlynol:
- Mae'n rhaid bod arwr wedi gwneud rhywbeth gwirioneddol bwysig, neu rywbeth a ystyrir yn bwysig (er bydd y farn yngly^n â'r hyn sy'n bwysig yn amrywio!)
- Mae'n rhaid bod arwr wedi gwneud rhywbeth sydd wedi bod o fudd i bobl eraill mewn rhyw fodd - ond a oes yn rhaid iddo fod o fudd i nifer arwyddocaol o bobl? A beth yw'r budd hwnnw? A yw chwaraewr pêl-droed disglair sy'n dod â budd i gefnogwyr ei dîm yn arwr? Neu a oes yn rhaid eich bod wedi darganfod penisilin a bod o fudd i'r ddynolryw?
- Mae'n rhaid bod yr hyn mae'r arwr wedi'i wneud yn adnabyddus, wedi'i gofnodi a'i gofio dros amser. Ond a bod yn onest, mae angen marchnata da ar arwr - neu yn y fan lleiaf, mae'n rhaid bod rhywun yn rhywle yn ymwybodol o'r hyn mae wedi'i wneud - mae'n rhaid bod arwr di-glod wedi derbyn ychydig o glod rhywle. Mae hynny'n gofyn y cwestiwn pwysig, sef, ai cyhoeddusrwydd sy'n creu'r arwr mewn rhai achosion, yn hytrach na bod y cyhoeddusrwydd ond yn adrodd ar yr hyn mae'r arwr wedi'i gyflawni. Nid mater cyfoes yn unig yw hyn - ni cheir fawr o wahaniaeth pa un a yw'ch cyhoeddusrwydd drwy farddoniaeth llys tywysog canoloesol neu yng nghylchgrawn Hello.
Mae hynny'n gadael un cwestiwn arall.
- · Er mwyn cyrraedd statws arwr, a oes yn rhaid iddo/iddi fod yn farw? Yn amlwg mae lle i drafod yma - a allwn ni feirniadu pwysigrwydd rhywun tra'i fod dal yn fyw? A oes yn rhaid i ni fod yn gallu defnyddio pellter amser er mwyn camu yn ôl ychydig? Yn wir, a ellir dadlau, os ydych chi'n farw rydych chi'n arwr, ac yn fyw, rydych yn celeb?
