Sut mae diffinio arwr 'Cymreig'?
Mae sawl gwahanol farn ar hyn!
A yw Arwr Cymru yn golygu rhywun sydd 'wedi'u geni yng Nghymru'. Mae hyn yn ddadansoddiad cwbl resymol. Mae'n syml a hawdd, ac fe ellir ei wirio. Yn anffodus, mae hyn yn golygu nad yw David Lloyd George (a aned ym Manceinion) a Saunders Lewis (a aned yng Nglannau Merswy) yn gymwys ond fe allwn eu cynnwys o dan ddiffiniad arall (ganed y ddau er enghraifft i rieni Cymreig a oedd yn rhan o'r ymfudo o Ogledd Cymru i Ogledd Orllewin Lloegr ar ddiwedd y 19G). Mae hefyd yn eithrio dau arall a enwebwyd - David Edward Hughes ac Alexander Cordell. Ond mae'n caniatáu T.E.Lawrence, a aned yn ym Mhenllyn, ond Gwyddelod oedd ei rieni ac fe symudasant i'r Alban yn fuan wedi ei enedigaeth - ni fu fyw yng Nghymru wedyn hynny. Felly nid yw'n fesur perffaith, ond ar y cyfan, ganed 96 allan o'r 100 arwr yng Nghymru, felly dyma'r diffiniad gorau a hefyd y symlaf.
Neu a yw Arwr Cymru yn golygu rhywun sydd wedi llwyddo yng Nghymru? Ai dyma sy'n gwneud rhywun yn arwr penodol Cymreig? Y broblem gyda'r diffiniad hwn yw ein bod yn colli hanner ein harwyr ar unwaith! Dim ond 50 allan o'r 100 fyddai'n cyfrif fel arwyr Cymru os ddefnyddir y diffiniad hwn. Byddai gennym rai enwau mawrion: Hywel Dda, Dafydd ap Gwilym, Owain Glyndŵr, Yr Esgob William Morgan, Hywel Harris, William Williams, Pantycelyn, Kate Roberts, Hedd Wyn, Saunders Lewis. A byddai gennym rai enwau llai cyfarwydd - Bill Frost (yr arloeswr hedfan o Sir Benfro) a John Jones o Fangor (1818 - 1898) 'seryddwr y bobl'. Addysg sylfaenol iawn a dderbyniodd, eto'i gyd fe adeiladodd delesgop yn ei amser sbâr - ynghyd â dysgu Groeg, Lladin a Saesneg ar ei ben ei hun.
Ond beth am Harri Tudur, Lloyd George, Aneurin Bevan? A beth am y perfformwyr ymron i gyd - Richard Burton, Anthony Hopkins, Cerys Matthews, Catherine Zeta Jones, a'r gweddill? A hefyd nifer o'r 'meddylwyr', 'arloeswyr', a'r 'bobl greadigol' o Robert Recorde yn yr unfed ganrif ar bymtheg i Bertrand Russell yn yr ugeinfed ganrif, o Gwen John i Kyffin Williams, o Robert Owen i Elizabeth Phillips Hughes. Fe lwyddodd y rhain i gyd y tu allan i Gymru. Serch hynny, yn aml nid oes dewis yn y mater. Hyd at 1999, os oeddech eisiau llwyddo mewn gwleidyddiaeth - ac os oeddech chi eisiau hybu lles Cymru yn y byd gwleidyddol - roedd yn rhaid i chi ddod yn Aelod Seneddol yn San Steffan (bydd rhai yn dadlau bod yn rhaid i chi wneud hynny hyd heddiw). Yn yr un modd, os ydych eisiau gyrfa yn actio neu'n canu mae'n rhaid i chi symud ymhellach, yn aml i America. Os oeddech chi eisiau addysg brifysgol cyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd yn rhaid i chi fynd i Rydychen neu Gaergrawnt - a hyd yn oed wedi hynny, byddai'n rhaid i chi fynd yno oherwydd dyna lle y credwyd yr oedd yr addysg brifysgol orau.
A yw 'Cymreictod' yn rhan hanfodol o hunaniaeth yr arwr? A ydynt (neu a oeddynt) yn galw'u hunain yn Gymro/Cymraes yn anad dim, a'u bod (neu wedi) cael eu gweld gan eraill fel Cymro/Cymraes. Wrth edrych ar ein rhestr o 100, a defnyddio'r prawf hwn mewn modd ffwrdd â hi, mae'n bosibl adnabod oddeutu dwy ran o dair yn Gymry ac un rhan o dair ddim yn Gymry - ond mae wrth gwrs digon o sgôp am ddadl. Gellir dweud, er enghraifft, nad yw Richard Burton yn cael ei weld fel actor penodol Cymreig, ond bod y gwrthwyneb yn wir am Ioan Gruffudd, ac yn wir Catherine Zeta Jones. Mae Cerys Matthews a James Dean Bradfield yn tynnu sylw at eu Cymreictod - yn chwarae ar y ddelwedd 'Cwl Cymru'. Mae Bryn Terfel yn bendant yn Gymro. Yn yr un modd â Dylan Thomas. Cadwodd Lloyd George ei hunaniaeth Gymreig yn Llundain - cyflwynodd forwynion a gweision a oedd yn siarad Cymraeg i 10 Downing Street. Ond mae yna eraill nad yw eu Cymreictod yn hysbys i bawb, neu nad hynny yw rhan bwysicaf eu hunaniaeth. Er enghraifft, mae Aneurin Bevan yn bencampwyr ymhlith y dosbarth gweithiol yn gyntaf, ac yn Gymro yn ail. A beth am Syr Henry Morton Stanley, Bertrand Russell, T.E.Lawrence, Simon Weston, Andrew Vicari, Tommy Cooper - rhestr o bobl a fydd rhai wedi'u synnu o weld eu bod wedi'u geni yng Nghymru.

David Lloyd George
T. E. Lawrence
Saunders Lewis
Catherine Zeta Jones
Bertrand Russell
Tommy Cooper