Gweithgaredd Dysgu
Gellir lawrlwytho taflen waith sy'n rhestru 100 o Arwyr Cymru i gyd sydd wedi'u henwebu, yn nhrefn y nifer o enwebiadau a dderbyniwyd. Mae'n nodi'r ganrif y cawsant eu geni a'r categori y cawsant eu henwebu.
Bydd angen copi o'r daflen waith ar bob disgybl sy'n gwneud y gweithgaredd.
- Gofynnir i bob disgybl pa un a ydynt yn meddwl bod mwyafrif yr arwyr yn ffigyrau hanesyddol o gyfnod pell yn ôl, neu a ydynt o'r presennol neu'r gorffennol diweddar. Un ffordd o ateb hyn yw drwy edrych ar y ganrif y cawsant eu geni. Sut allant ddarganfod hyn o'r data sydd yn y tabl?
- Ar hyn o bryd, mae'r data yn y tabl yn anodd i'w ddefnyddio i ateb y cwestiwn. Byddai'n haws ei ddeall pe tai'n cael ei gynrychioli'n wahanol, fel siart rhifol neu siart bar. Dylai'r disgyblion lunio siart rhifol yn gyntaf gyda llinell ar gyfer pob canrif (bydd rhai canrifoedd lle nad oes arwyr) yna defnyddiwch hyn i lunio siart bar. Bydd hyn yn golygu gwneud penderfyniadau ar y cyfryngau gorau ar gyfer yr echelau fertigol, a pha un a dylid cynnwys y canrifoedd i gyd ar yr echel lorweddol, neu dim ond y rheini lle ganed o leiaf un arwr.
Gweithgaredd Estynedig
A yw'r categori mae'r arwyr yn cael eu henwebu ar eu cyfer yn gwneud gwahaniaeth i ba un a ydynt yn ffigyrau hanesyddol neu'n arwyr mwy diweddar? I gael gwybod yr ateb, bydd yn rhaid i'r disgyblion ddychwelyd at y tabl gwreiddiol a llunio siartiau rhifol ar wahân ar gyfer pob un o'r categorïau yn dangos y ganrif cawsant eu geni, ac yn llunio siartiau bar ar wahân ar gyfer pob categori. Gellir gwneud y gweithgaredd hwn gan wahanol grwpiau, gyda phob un yn cymryd categori. Gellid cymharu canlyniadau rhwng categorïau a'r brif siart, a thrafod y rhesymau posibl dros y canlyniadau.

