Crynodeb
Cyflwynir data ar 100 o Arwyr Cymru mewn tabl. Gofynnir cwestiynau ynglŷn â'r data, a gellir eu hateb drwy eu cynrychioli fel siartiau rhifol neu siartiau bar.
Cysylltiadau â'r Cwricwlwm Cenedlaethol
- Ymdrin â Data, cynrychioli a dehongli data
- Cyfrannu tuag at y Cwricwlwm Cymreig ac ABCH
Nodau Dysgu
- Deall bod modd i ddata gael ei gyflwyno mewn gwahanol ffyrdd sy'n ei wneud yn haws i dynnu gwybodaeth.
- Atgyfnerthu dysg flaenorol ar gynrychioli data arwahanol fel siartiau bar.
- Ymarfer dehongli data ar siartiau bar.
Dysg Flaenorol
- Sut i gynrychioli data ar siartiau rhifol a siartiau bar
- Deall y term 'canrif'

