Crynodeb
Amlinellir amrywiaeth o weithgareddau, i gyd yn seiliedig ar y ffaith bod nifer trawiadol o uchel o'r arwyr a enwebwyd yn ddynion. Dangosir hyn yn raffigol mewn siart bar a chyfres o siartiau cylch, ac mae taflen waith yn cynnwys cwestiynau ar ddehongli'r data yn y siart (mathemateg). Gall hyn arwain at drafodaeth ar y rhesymau posibl dros yr anghydbwysedd hwn (Cymraeg a Saesneg, llefaredd). Ceir nifer o bosibilrwydd ar ffyrdd y gellir datblygu'r gwaith o'r pwynt hwn. Gwneir tri awgrym penodol yma: mae dau ar gyfer gwaith pellach yn y Gymraeg a Saesneg (darllen ac ysgrifennu), ac un ar gyfer gwaith Hanes (edrych ar y newidiadau yn rôl y ferch yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif).
Cysylltiadau Cwricwlwm Cenedlaethol
- Mathemateg: Ymdrin â Data, dehongli data.
- Cymraeg a Saesneg: Llefaredd - rhannu syniadau a barn, gwrando ar farnau, datblygu iaith
- Cymraeg a Saesneg: Darllen - darllen ffuglen a ffeithiol gyda chynnwys heriol (rhoi ystyriaeth i rôl dynion a merched)
- Cymraeg a Saesneg: Ysgrifennu - ymarfer ysgrifennu ffeithiol (dadlau a pherswadio mewn ymateb i drafodaeth y dosbarth), ac ysgrifennu creadigol mewn ymateb i straeon
- Hanes: gwybodaeth a dealltwriaeth hanesyddol (newidiadau yn rôl y ferch yng nghyfnod Victoria a'r ugeinfed ganrif); trefnu a chyfathrebu gwybodaeth hanesyddol.
- Cyfrannu at y Cwricwlwm Cymreig ac ABCH
Amcanion dysgu
- Ymarfer dehongli data ar siartiau bar a chylch.
- Trosglwyddo barn yn glir mewn trafodaeth, gwrando ar farn eraill
- Deall rhai o'r materion sydd y tu ôl i le merched mewn cymdeithas, heddiw ac yn y gorffennol
- Ymwybyddiaeth ar sut mae gwahaniaethau rhyw yn cael ei fynegi mewn llenyddiaeth a darnau ffeithiol (papurau newydd)
- Mynegi barn yn glir mewn gwaith ysgrifenedig ffeithiol; crynhoi barn eraill; ysgrifennu i ddadlau a dwyn perswâd
- Ysgrifennu yn greadigol o safbwynt gwahanol i un eu hunain
- Dysgu ynglŷn â'r newidiadau yn rôl y ferch yn oes Victoria a'r ugeinfed ganrif, a'u hachosion a'u canlyniadau
Dysgu blaenorol
- Sut i ddehongli data ar siartiau bar neu gylch.
- Ar gyfer y gweithgaredd Hanes, byddai ychydig o waith ar fywyd yn Oes Victoria a dechrau'r ugeinfed ganrif yn ddefnyddiol. Byddai gwaith ar ysgolion ac addysg yn arbennig o werthfawr.
Gweithgareddau dysgu - dilyniant y gweithgareddau
Mae'r ddau weithgaredd cyntaf wedi'u cynllunio i ddilyn un ar ôl y llall, a dylid ymgymryd â hwy'n gyntaf. Gellir cymryd gweithgareddau 3 - 6 mewn unrhyw drefn ac nid ydynt o reidrwydd yn gysylltiedig â'i gilydd.

