Syniadau ar gyfer Athrawon 1: Traws-gwricwlaidd Cyfnod Allweddol 2

Gweithgaredd dysgu 4: Cymraeg a Saesneg - darllen (ffeithiol)

Mae papurau newydd yn darparu amrywiaeth o ddeunydd er mwyn edrych ar y ffyrdd maent yn ymdrin â rolau dynion a merched a stereoteipiau. Er enghraifft, gellir astudio tudalennau chwaraeon er mwyn gweld faint o gentimedrau'r colofnau sydd wedi'u neilltuo i chwaraeon dynion a chwaraeon merched. A oes unrhyw wahaniaeth rhwng papurau tudalennau llydain a thabloid? Gellir defnyddio'r erthyglau ar y tudalennau chwaraeon, ynghyd ag erthyglau ar y tudalennau newyddion, i archwilio'r gwahaniaethau yn sut caiff merched eu disgrifio. Mewn rhai achosion efallai y bydd yn briodol defnyddio darnau o'r papurau newydd yn unig, neu i lungopïo erthyglau.

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru