Syniadau ar gyfer Athrawon 1: Traws-gwricwlaidd Cyfnod Allweddol 2

Gweithgaredd dysgu 3: Cymraeg a Saesneg - darllen (ffuglen)

Gellir darllen testun sy'n cyfrannu at ystyriaeth rolau dynion a merched a'r syniad o 'arwyr' neu 'arwresau' naill ai fel gweithgaredd dosbarth neu unigol. Gall y testunau hyn amrywio o storïau tylwyth teg a chwedlau gwerin Cymreig i ffuglen gyfoes. Gellir eu harchwilio i weld sut mae'r cymeriadau a'r storïau yn cydymffurfio â'r stereoteipiau traddodiadol (neu beidio) a gellir archwilio'r iaith i ddarganfod (er enghraifft) amrywiaeth yr ansoddeiriau a ddefnyddir i ddisgrifio y cymeriadau gwrywaidd a benywaidd. Dau lyfr cyfoes a ellir eu defnyddio yw The Turbulent Term of Tyke Tyler Tyler gan G.Kemp (Puffin, 1979) a llyfr Anne Fine, Bill's New Frock (Egmont, 1989).

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru