Gweithgaredd dysgu 2: Cymraeg a Saesneg – Llefaredd, datblygu iaith
Yn dilyn y gwaith ar ymdrin â data ar nifer y gwyr a'r gwragedd, gall y dosbarth drafod pam fod cyn lleied o ferched wedi'u henwebu fel arwyr. Gall y drafodaeth ystyried pa un a oes arwyr benywaidd yn bodoli, ond na chawsant eu henwebu neu a oes llai o arwyr benywaidd yn bodoli o gymharu ag arwyr gwrywaidd ac os felly, pam? Gall y drafodaeth gynnwys materion megis tegwch a chydraddoldeb, a gellir ystyried beth mae'r geiriau 'arwr' ac 'arwres' yn awgrymu. Pa ansoddeiriau fyddem ni'n defnyddio i ddisgrifio arwr? A pha rai fyddem ni'n defnyddio i ddisgrifio arwres?
Mae taflen wybodaeth athrawon yn rhoi peth gwybodaeth gefndir defnyddiol.

