Mae 100 o Arwyr Cymru yn adnodd dysgu cyffrous.

Mae bywgraffiadau'r arwyr yn darparu ffynhonnell gyfeirio defnyddiol, ond maent yn fwy na hynny - maent yn bwynt dechrau ar gyfer gwahanol weithgareddau ar draws cwricwlwm yr ysgol ym mhob Cyfnod Allweddol.

Cwricwlwm Cymreig

Mae 100 o Arwyr yn cynnwys popeth ynglŷn â gwyr a gwragedd Cymru a'u cyfraniad i Gymru a'r byd ehangach. O ffigyrau hanesyddol i arwyr byw, cyflwynir ymgeiswyr Cymreig ar gyfer statws arwrol ar draws pump gwahanol faes. Mae'n darparu cyfle gwych i gyflwyno dimensiwn Cymreig i nifer o bynciau ar draws y cwricwlwm, ac fe all ffurfio pwynt dechrau ar gyfer gweithgareddau'r ysgol gyfan neu weithagreddau traws-gwricwlaidd a all wneud cyfraniad mawr i'r Cwricwlwm Cymreig.

Beth mae bod yn Gymro neu Gymraes yn ei olygu? Sut allwn ni ddiffinio arwr 'Cymreig'? Ceir nifer o wahanol syniadau ar beth yw bod yn Gymro neu Gymraes. Bydd edrych ar y mater fel a adlewyrchir yn enwebiadau'r 100 o arwyr yn annog trafodaeth eang, ac yn cyfrannu at ymwybyddiaeth ddyfnach o fywyd yn y Gymru gyfoes.
Syniadau ar sut i ddechrau trafodaeth?

Sgiliau TGCh

Mae gwefan 100 o Arwyr Cymru yn rhoi cyfle i'r disgyblion ddefnyddio a datblygu eu sgiliau TGCh, ac mae'n ffordd berffaith o gyflwyno TGCh i amrywiaeth o bynciau. Mae'n arbennig o ddefnyddiol ar gyfer meysydd yn y cwricwlwm lle mai ychydig o ddarpariaeth sydd ar y Rhyngrwyd, er enghraifft y Cwricwlwm Cymreig.

Hanes

Mae nifer o'r arwyr a enwebwyd yn ffigyrau hanesyddol. Gall drafodaeth ynglŷn â pham cawsant eu henwebu - a pha un a ddylai rhai eraill fod wedi'u henwebu - fod yn gyfraniad defnyddiol mewn nifer o feysydd hanes yn y cwricwlwm. Gall ymchwil i mewn i fywydau unigolion arwyddocaol a gwerthfawrogiad o'u dylanwad ar ddigwyddiadau ffurfio fod yn ymarfer gwerthfawr mewn ymchwil hanesyddol. Bydd edrych ar ba mor enwog yw'r bobl hyn yn awr - a pha un a ydynt o reidrwydd yn haeddu eu henwau da - yn rhoi cipolwg defnyddiol ar ddadansoddiad hanesyddol.
Gweler enghraifft o weithgaredd Hanes (fel rhan o weithgaredd traws-gwricwlaidd) yng Nghyfnod Allweddol 2

Cymraeg a Saesneg - Llafar a Llythrennedd

Mae 100 o Arwyr yn darparu cyfleoedd ar gyfer gwaith llafar a llythrennedd sy'n gysylltiedig â'r Cwricwlwm Cymreig. Mewn trafodaethau dosbarth, gall ddisgyblion ddadlau eu hachos ar ran eu harwr dewisedig. Mewn gwaith ysgrifenedig, mae paratoi achos dros yr unigolyn y byddent yn pleidleisio drosto yn darparu ymarfer pwrpasol wrth ysgrifennu er mwyn dwyn perswâd. Mewn gweithgaredd estynedig gall y disgyblion gynhyrchu posteri er mwyn cefnogi'u harwyr, yna cynnal ffug etholiad.
Gweler syniadau ar gyfer gwaith llafar a llythrennedd (fel rhan o weithgaredd traws-gwricwlaidd) yng Nghyfnod Allweddol 2

Mathemateg

Gellir defnyddio bywgraffiadau'r arwyr i ddarparu enghreifftiau ar gyfer gweithgareddau ymdrin â data gyda blas unigryw Gymreig. Gweler enghraifft o weithgaredd Mathemateg posibl yng Nghyfnod Allweddol 2

ABCH

A ddylai sêr roc gael eu cymeradwyo'n arwyr ochr yn ochr â gwleidyddion, tywysogion canoloesol, arlunwyr ac awduron gwych? Beth am actorion a sêr chwaraeon? Beth felly sy'n gwneud arwr? A oes rhai mathau o arwyr yn bwysicach nag eraill?
Syniadau ar sut i ddechrau trafodaeth?

Gweithgareddau traws-gwricwlaidd

Mae gwefan 100 o Arwyr Cymru yn darparu pwynt dechreuol gwych ar gyfer gweithgareddau traws-gwrwclaidd, yn arbennig yng Nghyfnod Allweddol 2.
Gweler syniadau ar gyfer gwaith traws-gwricwlaidd estynedig yng Nghyfnod Allweddol 2.

Atborth Addysg

Anfonwch eich syniadau a sylwadau ysgol atom:

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru