Syniadau ar gyfer Athrawon 1: Traws-gwricwlaidd Cyfnod Allweddol 2

Gweithgaredd dysgu 6: Hanes

Bydd y drafodaeth wreiddiol ar pam bod cyn lleied o arwyr benywaidd wedi rhoi ystyriaeth i rai o'r materion sydd wedi effeithio ar rôl y ferch yn y gorffennol. Mae'r gweithgaredd hwn yn edrych yn fanylach ar rôl y ferch yn oes Victoria, ac ar sut y newidiodd yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.

Mae taflen ffeithiau i ddisgyblion a thaflen ffeithiau i athrawon ar gael.

Cyflwyniad: - trafodwch rôl y ferch yng Nghyfnod Victoria a dechrau'r ugeinfed ganrif.

Gwaith grŵp:Rhannwch y dosbarth yn dri grŵp. Rhoddir rôl plant o gyfnod Victoria yn yr ysgol ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg i un grŵp. Bydd un arall yn nosbarth ysgol yn yr 1920au neu'r 30au a'r trydydd yn yr 1950au neu'r 1960au.

Mewn parau gall y plant dderbyn neu ddewis gymeriad (naill ai bachgen neu ferch, a dosbarth cymdeithasol). Yna gofynnir iddynt ddychmygu bod y plentyn hwn yn yr ysgol, a'i fod wedi derbyn tasg gan yr athro neu athrawes i ysgrifennu traethawd 'beth fyddaf i'n gwneud pan fyddai'n hŷn'. Gofynnir iddynt wneud nodiadau ar y prif bwyntiau y bydd angen iddynt eu cynnwys yn y traethawd – pa fath o swydd bydd modd iddynt gael pan fyddant yn gadael yr ysgol?

Sesiwn Lawn:Bydd yn rhaid i'r parau adrodd yn ôl i weddill y dosbarth ynglŷn â'u cymeriad (dosbarth cymdeithasol, cyfnod, rhyw) a'r hyn fyddant yn gwneud pan fyddant yn hŷn, yn defnyddio'r nodiadau maent wedi'u hysgrifennu.  

Gall y gweithgaredd ddod i ben gyda thrafodaeth/pleidlais ar ba gymeriad sydd â'r dyfodol 'gorau' o'i flaen.


Estyniad i Weithgaredd 6

Mae nifer o ffyrdd ar sut gellir ymestyn y gweithgaredd hwn. Er enghraifft:

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru