Pwy yw'r 100 Arwr?
Mae'r 100 o Arwyr Cymru a bortreadir ar y safle hwn yn ymddangos o ganlyniad i bôl piniwn ar-lein mwyaf erioed yng Nghymru. Rhwng 8 Medi 2003 a 23 Chwefror 2004, derbyniodd Culturenet Cymru dros 80,000 o enwebiadau a phleidleisiau yn eu hymdrech i ddod o hyd i'r Cymry gorau erioed.
Mae'r arwyr a bortreadir ar y safle hwn yn arddangos talentau hynod y Cymry drwy'r oesau, ymron ym mhob agwedd ar fywyd. Wrth ddefnyddio'r safle hwn gallwch astudio llwyddiannau'r 100 arwr, gallwch hefyd ddysgu mwy ynglŷn â'r prosiect unigryw hwn drwy ymweld â'r dudalen erthyglau.
Arwr y Dydd
40 - Kyffin Wiliams (Syr Kyffin Williams RA) (170 o bleidleisiau)
Un o hoff arlunwyr cyfoes Cymru, a ddechreuodd beintio ar gyngor meddyg.
Mewn gyrfa hir a nodedig, mae Kyffin Williams yn un sy"n cael ei edmygu gan y Byd Celf a chan y cyhoedd yn gyffredinol. Anaml iawn y bydd ei arddull uniongyrchol a digamsyniol yn methu â chyflwyno golwg newydd ar ei destunau. Mae delweddau o bobl Cymru a golygfeydd o"r wlad ei hun wedi bod yn thema amlwg yn ei gynnyrch sy"n para i hawlio prisiau uchel ar y farchnad ryngwladol.
