Y Categorïau
Drwy'r canrifoedd mae'r Cymry wedi cyflawni gorchestion ym mhob maes. Cawsoch eich gwahodd i enwebu arwyr mewn 5 o gategorïau. Yr ugain sydd wedi derbyn y nifer fwyaf o enwebiadau ym mhob categori sy'n cael eu henwi yn y rhestr o 100 o Arwyr Cymru.
Arweinwyr
O frenhinoedd hynafol i wleidyddion cyfoes, mae'r arweinwyr sydd wedi cael eu henwebu amlaf yn ymestyn dros gyfnod o bymtheg can mlynedd bron yn hanes Cymru.
Fe gyflawnodd rai fawredd mewn brwydr, eraill drwy'r bleidlais. Diweddodd bywyd un mewn palas brenhinol, llall ar grocbren.
Fe hawliodd pob un ohonynt ddefosiwn eu dilynwyr a lle yn y llyfrau hanes.
Meddylwyr
O faterion ysbrydol i dechnoleg gwybodaeth, mae'n Meddylwyr wedi helpu i lunio'r byd a'r ffordd yr ydym yn edrych ar fywyd.
Mae eu syniadau wedi creu dyfeisiau pwysig, diwygiadau cymdeithasol a mudiadau poblogaidd.
Fe newidiodd rhai Meddylwyr cwrs hanes tra bod eraill yn dylanwadu ar y dyfodol.
Perfformwyr
Mae perfformwyr o Gymru wedi mwynhau llwyddiant dros y byd ym maes chwaraeon ac adloniant, gyda phob cenhedlaeth newydd yn cynhyrchu llu o sêr newydd.
O gantorion i asgellwyr, o baffwyr i sêr ym myd cerddoriaeth bop; mae'n ddigon posibl mai ein perfformwyr talentog yw ein prif allforion.
Nid yw'n syndod fod y categori hwn wedi denu mwyafrif yr enwebiadau. Ond ai perfformiwr yw'r Cymro neu'r Gymraes pwysicaf yn ein hanes?
Pobl Greadigol
Mae'r Cymry yn cael eu cydnabod yn fwy am eu gallu gyda geiriau na maent am eu sgiliau ym meysydd celf weledol a dylunio. Mae'n henwebiadau o Bobl Greadigol yn unioni'r fantol i raddau helaeth.
Ymhlith y nofelwyr a'r beirdd yma fe ddowch o hyd hefyd i arlunwyr a dylunwyr.
Digon o eiriau felly, yn ogystal â llawer o weithredu.
Arloeswyr
Mae rhai pobl yn dilyn yr un hen lwybr mewn bywyd. Nid yw hynny'n wir am yr 20 o Arloeswyr sydd wedi cyrraedd y brig.
Maent yn bobl wreiddiol. Mae eu meddylfryd hwy wedi cyflawni pethau unigryw. Mae rhai ohonynt yn enwog iawn, rhai yn hynod gyfoethog.
Mae eraill wedi aros yn y cefndir, yn dawel ond yn ddylanwadol iawn yn eu ffordd arbennig.
Dyma'r bobl sy'n amhosib eu rhoi mewn categori.
