
98. Yr Arglwydd Rhys (Rhys ap Gruffudd)
Arweinwyr (51 o bleidleisiau)
1132 – 1197
Rheolwr grymus olaf teyrnas y Deheubarth a gynhaliodd yr "Eisteddfod" gyntaf erioed.
Mewn cyfnod o frwydro mynych rhwng y rheolwyr Cymreig oedd yn ceisio ehangu eu tiroedd a"u dylanwad, y Norman oedd prif elyn Rhys ap Gruffudd oedd wedi llwyddo i gipio Ceredigion, Emlyn a"r Cantref Bychan. Yn ŵyr i Rhys ap Tewdwr, a hefyd, trwy ei fam, Nest, i Ruffudd ap Cynan, brenin Gwynedd, ef oedd unig arglwydd y rhannau hynny o"r Deheubarth a chwenychai annibyniaeth wleidyddol i Gymru.
Mor llwyr oedd ei afael ar Ddyfed nes peri i"r arglwyddi Normanaidd chwilio am diroedd mewn llefydd eraill. Cawsont gymorth gan yr Arglwydd Rhys i oresgyn Leinster yn Iwerddon. Ond mynnodd Harri II mai ef oedd ben ar yr Ynys Werdd, a derbyniodd lw o ffyddlondeb gan reolwyr Gwyddelig yr ynys. Fel y dywed y Dr John Davies yn ei lyfr Hanes Cymru, "gwreiddiau Cymraeg sydd i hanes alaethus llywodraeth Seisnig yn Iwerddon".
Pan ddaeth Harri II i orsedd Lloegr, collodd Rhys y rhan fwyaf o"r tiroedd a enillasai, a chododd mewn gwrthryfel deirgwaith, ac yn ei ymgyrch ym 1162 penderfynodd Harri II ei bod hi"n hen bryd ymweld â Chymru. Yn ôl Gerallt Gymro, wrth deithio drwy"r pentrefi, cyfarfu a"r Hen Ŵr o Bencader. Dywedodd hwnnw wrth y brenin na allai fyth orchfygu ei wlad :
"Oni bai am eich cynghreiriaid sydd y tu mewn iddi hi,/Anundeb a swyddgarwch a gwâd".
Llwyddodd Yr Arglwydd Rhys i adennill y tiroedd, ac yn y diwedd gwelodd Harri II bod yn well iddo gael Rhys ap Gruffudd ar ei ochr ef, ac fe"i penododd yn Ustus Deheudir Cymru.
Ym 1172 dangosodd Yr Arglwydd Rhys mai ef oedd rheolwr mwyaf nerthol Cymru, trwy gynnal "Eisteddfod" yn ei gastell yn Aberteifi.
Gresyn, ar ôl ei farwolaeth, i"w deyrnas gael ei chwalu gan ei feibion afreolus. Fel y dywed yr Hen Wr o Bencader: "A gwendidau fy nghenedl sydd yn fy ngyrru"n wr hen,/I golli fy nhymer yn lân."
