Simon Weston

26. Simon Weston OBE

Arloeswyr (416 o bleidleisiau)

1961 –

Y cyn filwr a gafodd ei glwyfo"n ddifrifol sy"n cynorthwyo eraill i oresgyn rhwystrau bywyd.

Digon cyffredin oedd bywyd Simon Weston tan i un achlysur ei droi"n anghyffredin.

Yn frodor o Nelson yng nghymoedd de Cymru, ymunodd â"r Gwarchodlu Cymreig ym 1978, ac yn ôl y drefn, cafodd ei anfon gyda"r fyddin i Ogledd Iwerddon, yr Almaen a chyfnod yn Nwyrain Affrica.

Pan oresgynnodd yr Archentwyr ynysoedd y Falklands ym 1982, hwyliodd am Dde"r Iwerydd gyda"r tasglu a alwyd ynghyd ar frys i adennill eiddo Prydain.

Roedd yn un o filwyr trydydd Cwmni y Gwarchodlu Cymreig y prynhawn hwnnw pan fomiwyd eu llong oedd ymron yn gyfan gwbl ddiamddiffyn gan bedair awyren jet yr Archentwyr. O safbwynt Prydain, hwn oedd digwyddiad mwyaf trychinebus y rhyfel.

Roedd tri deg a thri o aelodau"r Gwarchodlu Cymreig ymhlith yr hanner cant ac un o filwyr a morwyr a laddwyd. Roedd y storfa o betrol oedd ar ei bwrdd wedi chwyddo"r belen dân a orchuddiodd y llong. Cafodd hanner corff Simon Weston ei losgi"n ddifrifol.

Mae"r ffactorau a arweiniodd at yr ymosodiad ar y Syr Galahad y diwrnod hwnnw yn Fitzroy wedi bod yn destun llawer iawn o ddadlau, ond nid yw Weston byth wedi chwennych edliw bai.

Yn lle hynny, dechreuodd ar y siwrnai faith a phoenus yn ôl i normalrwydd, sydd wedi ei chroniclo"n deimladwy mewn cyfres ddogfen deledu, Simon"s War.

Wrth i Simon fynd trwy un llawdriniaeth boenus ar ôl y llall i geisio lleddfu rhywfaint ar y niwed corfforol, y wers foel oedd mai aberth dynol yw"r pris y mae"n rhaid ei dalu mewn rhyfel.

Enillodd edmygwyr di-rif o ganlyniad i"r gyfres, ac fe ddefnyddiodd ei enwogrwydd er budd eraill. Mae ymron hanner can mil o bobl ifainc dan anfantais wedi elwa o The Weston Spirit.

Mae"n awdur dwy gyfrol hunangofiannol a nofel gyffrous - Cause of Death. Mae galw mawr amdano hefyd fel darlledwr a siaradwr o gymhelliad cryf.

Gyda"i wyleidd-dra didaro, a"i natur hwyliog, mae"n enghraifft berffaith o sut i ymdopi â pha droeon bynnag ddaw mewn bywyd.

Eich sylwadau chi

Am ddangos dewrder i ni ac na ddylem fyth roi mewn i ofn ac i beidio â rhoi'r gorau iddi ond brwydro ymlaen.

Gwr, yn ôl ei gyffes ei hun, a allai fod wedi mynd y ffordd anghywir. Ymunodd â’r fyddin i wasanaethu ac i wella ei hun. Mae wedi dioddef yn fawr ac wedi gweithio’n ddiflino i wella eraill, i ddysgu maddeuant ac i gefnogi’r rheiny oedd ei angen. Gwr yr 21ain ganrif.

Gwr gwirioneddol ysbrydoledig a drawyd â thrasiedi. Mae’n enghraifft ddisglair o’r ysbryd dynol a drwy ei waith elusennol mae wedi dangos gwir arweinyddiaeth fel esiampl i bawb.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru