
86. Richard Amerik
Arloeswyr (57 o bleidleisiau)
15th Century AD – 16th Century AD
Gŵr pwysig, cyfoethog o gyfnod y Tuduriaid, ac mae"n bosib fod America wedi cael ei enwi ar ei ôl.
Richard Americk oedd prif swyddog y Tollau ym Mryste ar ddiwedd y 15fed Ganrif. Fe"i ganed yn Gymro, neu o dras Gymreig, ac roedd ei enw, o bosib, yn deillio o "ap Meurig".
Mae"r ddamcaniaeth bod America wedi"i enwi ar ei ôl yn mynd fel hyn: roedd casglu tollau, mae"n debyg, yn swydd oedd yn talu"n dda, ac Americk oedd prif fuddsoddwr ymdaith John Cabot ar draws yr Iwerydd ym 1497. Yn ôl y sôn, cafodd ei gefnogaeth ei had-dalu, drwy enwi"r cyfandir oedd newydd ei ddarganfod ar ei ôl.
Roedd Harri Tudur wedi annog Cabot i ddarganfod tiroedd newydd. Credir iddo gyrraedd Y Tir Newydd (Newfoundland), a glanio ar wahanol rannau o"r arfordir cyn dychwelyd i Fryste. Nid oes yr un cofnod pendant o"r ymdaith wedi goroesi, er bod awgrym wedi ei wneud y gallai enw Amerik fod wedi ymddangos ar fapiau Cabot oherwydd ei statws swyddogol ym Mryste, yn ogystal â"r ffaith iddo fuddsoddi yn y fenter.
Flwyddyn yn ddiweddarach glaniodd y morwr o Fflorens, Amerigo Vespucci, yn Ne America, a bu"n archwilio"r ardal o gwmpas ceg afon Amason. Dychwelodd ymhen blynyddoedd, gan deithio ar hyd yr arfordir i"r wlad a elwir heddiw yn Ariannin.
Mae"r enw "America" yn ymddangos am y tro cyntaf ym 1509, yn Cosmographiae Introductio gan y mapiwr o Strasbourg, Martin Waldseemüller. Yn ôl y sôn, roedd yn credu taw Vespucci - ac nid Christopher Columbus - oedd wedi darganfod America, ac felly fe enwodd y cyfandir ar ei ôl ef.
Mae"r ddadl fawr hon ynglŷn â phwy oedd y cyntaf i ddarganfod cyfandir America yn hynod ddiddorol oherwydd y diffyg sicrwydd ar y ddwy ochr. Ni ddaeth honiad gan yr un ohonynt i"r amlwg tan yr ugeinfed ganrif, ac wedyn cafodd y naill ochr a"r llall gefnogaeth haneswyr â chanddynt eu cyllyll diwylliannol eu hunain i"w hogi.
Cafodd Amerik ei argymell gan Dr Basil Cottle - Cymro arall, oedd, fel ei arwr, wedi treulio cryn dipyn o amser ym Mryste. Ac Eidalwr arall - Alberto Magnaghi - oedd cefnogwr Vespucci.
Fel arbenigwr ar enwau, roedd Dr Cottle yn mynnu, os mai honiad Vespucci oedd yr un cywir, yna byddai"r cyfandir, yn ôl y drefn, wedi cael ei alw"n "Vespuccia". Ond o safbwynt Cymreig, mae"n braf meddwl y dylid galw America, mewn gwirionedd yn "ap Meuriga".
