
2. Owain Glyndŵr
Arweinwyr (2309 o bleidleisiau)
circa 1349 – circa 1416
Arweinydd gwrthryfel a"r cyntaf i ddefnyddio dulliau rhyfela gerila pan gododd y Cymry yn erbyn rheolaeth y Saeson yn gynnar yn y 15fed ganrif - gwrthryfel oedd i bara am fwy na deng mlynedd.
Heddiw, nid yw Owain Glyndŵr yn ymddangos fel y rebel delfrydol. Roedd ganddo berthynas agos â nifer o ŵyr bonheddig oedd yn astudio"r gyfraith yn Neuaddau"r Frawdlys yn Llundain. Roedd hefyd yn ddisgynnydd i sawl Teulu Brenhinol hynafol Cymreig. Yn ystod y cyfnod cythryblus yr oedd yn byw ynddo, roedd yn arweinydd naturiol i"w gydwladwyr anfodlon.
Ym 1400, ar ôl canrif a mwy o orfod plygu i goron Lloegr, roedd y Cymry mewn hwyliau drwg. Roedd Harri"r IV wedi cipio"r grym o ddwylo Richard II, yr oedd Glyndŵr wedi bod yn aelod o"i fyddin yn y frwydr yn erbyn yr Alban. Pan wrthododd y brenin newydd wrando ar gwynion Glyndŵr yn erbyn Reginald de Grey, Arglwydd Rhuthun, fe ddatblygodd y cecru lleol yn gyflym i fod yn wrthryfel cenedlaethol.
Wedi ennill cefnogaeth uchelwyr Cymreig eraill, cyhoeddodd Glyndŵr ei hun yn Dywysog Cymru. Dychwelodd ysgolheigion o Rydychen, a gweithwyr adeiladu o Lundain i ymuno â byddin
Glyndŵr.
Roedd hynny"n ddigon i"r brenin Harri ac fe orymdeithiodd ei fyddin i Gymru. Ond roedd hi"n anodd dod o hyd i Glyndŵr, gan iddo ddiflannu i"r ucheldir gyda"i gefnogwyr dibynadwy. Fel hyn y treuliodd y rhan fwyaf o"i oes; yn osgoi cael ei ddal ac yn creu patrwm ar gyfer herwfilwyr y dyfodol. Bu i"w dactegau lwyddo a sicrhawyd mai Owain Glyndŵr oedd yn rheoli rhan helaeth o Gymru erbyn diwedd 1403.
Aeth Glyndŵr ati i geisio cael cefnogaeth o"r tu allan - trodd at yr Alban a Ffrainc. O ganlyniad i"w lythyr at Siarl VI, brenin Ffrainc - llythyr Pennal, sydd wedi goroesi hyd heddiw - derbyniodd ychydig o gymorth ariannol a milwrol, ond roedd yn rhy ychydig yn rhy hwyr. Glaniodd milwyr o Ffrainc yn Aberdaugleddau ym 1405, ond cyn pen blwyddyn roeddent wedi gadael Cymru.
Daeth y trobwynt pan drechwyd y gwrthryfelwr ym Mhwllmelyn yn Sir Fynwy. Gyda"r gefnogaeth iddo yn gwanhau, ciliodd Glyndŵr yn ôl i"w fro yng nghanolbarth Cymru. Bu farw, tua 1416 mae"n debyg, ag yntau"n ddyn rhydd a"i statws chwedlonol ac arwrol yn ddiogel.
