
99. Isaac Roberts
Meddylwyr (44 o bleidleisiau)
1829 – 1904
Seryddwr oedd yn arloeswr ym maes tynnu lluniau sêr pell.
Roedd datblygiad ffotograffiaeth yn cynnig cyfle gwych i seryddwyr Oes Victoria. Prin bod modd gweld gwrthrychau ym mhellafion y gofod drwy ddefnyddio telesgop, ond yn awr, os oedd y dadleniad yn ddigon hir, roedd modd datgelu"r cyfan ar blât ffotograffig.
Yr unig broblem oedd symudiad y ddaear yn ystod cyfnod tynnu"r llun - roedd hynny"n peri i"r ffotograff fod yn niwlog ac aneglur. Fe lwyddodd Isaac Roberts i ddatrys y broblem trwy ddyfeisio cyfuniad o delesgop a chamera fyddai"n gallu dilyn y gwrthrych yn ddigon hir er mwyn cofnodi darlun clir.
Roedd hyn yn ddatblygiad cyffrous oherwydd bod modd astudio rhai sêr yn agosach nag erioed o"r blaen. Fe lwyddodd Roberts i gynhyrchu"r lluniau manwl cyntaf o"r Andromeda Nebula, sydd dros 2 filiwn o flynyddoedd goleuni o"r ddaear, a datgelwyd ei chynllun troellog - rhywbeth na welwyd o"r blaen.
Fel John Jones - "seryddwr y werin bobl" o Fangor - roedd Roberts yn amatur, ond yn wahanol i Jones, roedd ganddo gyfoeth personol i ariannu ei ddiddordeb. Fe"i ganwyd yn Y Groes ger Dinbych, ac roedd yn berchen ar gwmni adeiladu llewyrchus ar Lannau Merswy cyn ymddeol er mwyn canolbwyntio ar ei ddiddordeb pennaf, sef seryddiaeth.
Adeiladodd arsyllfa yng ngerddi ei gatref, Starfield, oedd yn ddigon da i ennyn eiddigedd sawl sefydliad blaenllaw. Cyhoeddodd ei luniau mewn sawl llyfr a gafodd eu canmol, a derbyniodd gydnabyddiaeth ryngwladol. Enillodd hefyd sawl anrhydedd, gan gynnwys Medal Aur y Gymdeithas Seryddol Frenhinol yn ogystal â chymrodoriaeth y Gymdeithas Frenhinol.
Pan yn 67, priododd Dorothea Klumpke, seryddwr Americanaidd, oedd bron yn ddeng mlynedd ar hugain yn iau nag ef - ac fe enillodd hithau gydnabyddiaeth sylweddol hefyd. Wedi ei farwolaeth, mae"r byd gwyddonol yng Nghymru wedi elwa o gyfraniadau hael i Golegau Prifysgol Caerdydd a Bangor.
Mae ceudwll ar ochr bellaf y lleuad wedi"i enwi"n Roberts er anrhydedd i Isaac, ynghyd â"i gyd seryddwr o Dde Affrica, Alexander.
