Elizabeth Andrews

100. Elizabeth Andrews

Arloeswyr (37 o bleidleisiau)

1882 – 1960

Y fenyw gyntaf i fod yn Drefnydd ar y Blaid Lafur yng Nghymru, ac ymgyrchydd llwyddiannus dros well amodau cymdeithasol.

Ym 1918, pan gyflwynwyd tystiolaeth gerbron Comisiwn Sankey gan dair menyw o"r ardaloedd glofaol, cafodd y wasg eu synnu gan eu hunan-hyder llafar, yn enwedig y cynrychiolydd o dde Cymru. Mor ddiffygiol oedd ei hadnabyddiaeth o Elizabeth Andrews.

Fe dyfodd i fyny yn y Rhondda, y trydydd o unarddeg o blant. Gorfu iddi adael ysgol yn 12 oed oherwydd bod angen pâr ychwanegol o ddwylo ar yr aelwyd gartref. Fe fyddai cywiro dillad gwaith ei thad a"i brodyr oedd yn lowyr, yn ei chadw i fynd tan yr oriau mân, a byddai streiciau mynych a chael eu cloi allan o"r gwaith yn golygu mai prin oedd yr arian.

Roedd hi"n barod iawn i gymryd rhan mewn trafodaeth gyhoeddus, oedd yn beth anghyffredin ymhlith menywod y dosbarth gweithiol. Pan oedd yn 22 oed, ysgrifennodd Elizabeth at bapur newydd yn cefnogi Evan Roberts, a"i "Ddiwygiad Mawr". Er ei fod yn llythyr dienw, fe achosodd gryn gynnwrf.

Hwn oedd ei phrofiad cyntaf o fentro i fyd dadleuol, ac fe ddilynodd hynny drwy ymuno â"r Swffragetiaid. Yn ddiweddarach, roedd hi"n sôn am yr atgof oedd ganddi o"r cyfarfodydd hynny yn cael eu chwalu gan - yn rhyfedd iawn fel yr ymddengys heddiw - Gynghrair y Rhyddfrydwyr ifanc.

Pan gafodd Menywod y bleidlais o"r diwedd, fe gyflogodd Llafur bedair merch yn drefnyddion, yn eu plith, Elizabeth Andrews. Ochr yn ochr a"i gwaith dros y blaid, fe ymgyrchodd yn ddiflino dros well amodau byw yng nghymunedau diwydiannol Cymru.

O ganlyniad i"r dystiolaeth a gyflwynodd i Gomisiwn Sankey, sefydlwyd baddonau ar ben y pyllau glo - cyn hynny fe fyddai"r llwch a"r bryntni yn cael eu cario nôl bob nos i gartrefi. Byddai"r dillad gwaith yn cael eu sychu o flaen y tân yn y ceginau gorlawn, ac fe gyfrannodd hynny at y ffaith fod y gyfradd farwolaeth ymysg babanod mor uchel. Ac roedd cario"r tybiau ymolchi trwm a"r bwyleri yn effeithio"n ddrwg ar famau.

Ym 1938, yn y Rhondda, wedi blynyddoedd o ymgyrchu gan Elizabeth Andrews, agorwyd yr ysgol feithrin gyntaf yng Nghymru.

Roedd yn ymgyrchydd gwleidyddol penderfynol a wynebodd her Comiwnyddiaeth yn y Cymoedd cyn y rhyfel. Am gyfnod byr, roedd Rhondda, oedd yn cael ei rheoli gan y Comiwnyddion, yn cael ei galw yn "Foscow fach".

Erbyn i Elizabeth Andrews adael ei swydd ym 1948, roedd Llafur wedi hen ddisodli"r Rhyddfrydwyr fel y prif bŵer gwleidyddol yng Nghymru.

Eich sylwadau chi

Diwygiwr cymdeithasol anenwog.

Fe wnaeth gymaint dros ei hannwyl gymoedd.

Roedd yn ddiwygiwr cymdeithasol a ymgyrchodd am faddonau ben pwll fel na fyddai’n rhaid i’r glowyr gludo’r baw adref i’w cartrefi.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru