
64. William Price
Arloeswyr (114 o bleidleisiau)
1800 – 1893
Doctor, Archdderwydd hunan benodedig ac arloeswr amlosgi yn y Gorllewin.
Yn llysieuwr, yn noethlymunwr oedd yn credu mewn cariad rhydd a meddyginiaethau llysieuol - mae"r disgrifiad o syniadau Dr William Price yn swnio"n debycach i egwyddorion gwrth ddiwylliant yr 1960au na Chymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Ac eto, achubodd William Price y blaen ar yr "hipis" ganrif a mwy ynghynt, ac fe brofodd ei fod yn un o gymeriadau mwyaf lliwgar a phryfoclyd ei oes.
Does yna ddim dwywaith ei fod yn ecsentrig. Pan yn llanc ifanc fe dramgwyddodd bobl barchus Llantrisant drwy grwydro"r ardal yn noethlymun. Arferai wisgo croen llwynog am ei ben, enwodd ei fab yn Iesu Grist a chyhoeddodd ei hun yn Archdderwydd y ffydd Geltaidd coll.
Cafodd ei hyfforddi fel meddyg yng Nghaerffili a Llundain, a bu"n gweithio yng nghymunedau glofaol newydd cymoedd de Cymru.
Roedd yn wrthwynebus iawn tuag at bobl oedd yn ysmygu, a gwrthododd drin cleifion oedd yn gwneud hynny. Cafodd ei feddyginiaethau llysieuol eu dosbarthu i"w gleifion ynghyd ag ychydig o lafarganu derwyddol i hyrwyddo"r broses. Fel meddyg, roedd yn ddigon dirmygus o"i gyfoedion, ac mae"n bur debyg eu bod hwythau yn ddirmygus ohono ef.
Nid oedd ganddo fawr o amynedd chwaith tuag at berchnogion y pyllau glo, cyfreithwyr na"r uchelwyr lleol grymus. Roedd yn weriniaethwr argyhoeddedig, roedd yn gefnogol i"r Siartwyr a bu"n rhaid iddo ffoi i Baris yn sgil methiant terfysgoedd Casnewydd ym 1839.
Flynyddoedd yn ddiweddarach, pan yn ei wythdegau, fe gwympodd mewn cariad gyda Gwenllïan Llewelyn, merch ifanc oedd ddegau o flynyddoedd yn iau nag ef. Ac er mwyn cythruddo"r eglwyswyr lleol, fe fedyddiodd Price ei fab yn Iesu.
Bu farw Iesu yn blentyn bach, ac arweiniodd hynny at y digwyddiad sy"n cael ei gysylltu fwyaf â Price. Ar 18 Ionawr 1884, fe losgodd gorff y plentyn yn Llantrisant o flaen nifer o dystion. Roedd Price yn credu fod amlosgi yn unol â chredoau cyntefig Celtaidd.
Cafodd Price ei erlyn, ond dyfarnodd y llys o"i blaid - gan sefydlu, unwaith ac am byth, bod amlosgi yn gyfreithiol.
