
48. Donald Davies
Arloeswyr (146 o bleidleisiau)
1924 – 2000
Arloeswr o wyddonydd cyfrifiadurol y mae ei waith wedi arwain yn uniongyrchol at greu"r Rhyngrwyd.
Yn un o"r proffwydoliaethau anghywir gwychaf a wnaed erioed, dywedodd Thomas Watson o IBM unwaith na fyddai"r galw byd-eang am gyfrifiaduron byth yn mynd y tu hwnt i bump. Roedd Donald Davies yn un o"r bobl hynny a barodd i"r rhagolwg yna ymddangos mor chwerthinllyd fel ag y mae heddiw.
Fe"i ganed yn Nhreorci yn y Rhondda ac aeth Davies i goleg Imperial yn Llundain. Yno, o blith mathemategwyr ei flwyddyn, fe oedd flaenaf. Ar ôl graddio, ymunodd â thîm bychan oedd yn datblygu cyfrifiaduron cynnar. Arweinydd y tîm oedd Alan Turing a oedd yn enwog am ei ran yn datrys codau"r Almaenwyr yn ystod y rhyfel.
Yn ôl ei gyfoeswyr, roedd rhychwant ei sgiliau yn rhyfeddol. Nid yn unig roedd yn feistr ar elfennau damcaniaethol gwyddoniaeth gyfrifiadurol, roedd hefyd yn beiriannydd da. Mewn geiriau eraill, byddai"n cael syniad am beiriant, ei gynllunio ac wedyn yn ei adeiladu ei hun. Ymhlith ei brosiectau yr oedd ffugiwr traffig a chyfrifiadur oedd yn cyfieithu o Rwsieg i Saesneg.
Ym 1965, pan oedd yn gweithio"n y labordy Ffisegol Cenedlaethol, cynhyrchodd ei waith pwysicaf. Gan sylweddoli y byddai cyfrifiaduron yn fwy defnyddiol petaent yn gallu "siarad" â"i gilydd, datblygodd sustem oedd yn galluogi i"r peiriannau anfon pecynnau o wybodaeth yn ôl ac ymlaen dros rwydweithiau telathrebu.
Cafodd ei gynllun ei fachu gan yr Asiantaeth Cynlluniau Ymchwil Blaengar (yr Advanced Research Project Agency ) yn UDA a"i ymgorffori yn ei rwydwaith ARPNET. Mae "Packet Switching" fel y daeth i gael ei adnabod, yn dal yn sylfaen i"r Rhyngrwyd.
Yn ei waith yn ddiweddarach addasodd ei syniadau wrth i gwmnïau mawr a sefydliadau cyhoeddus ddatblygu eu rhwydweithiau eu hunain. Cynhyrchodd hefyd dechnoleg godio (encryption) y mae"r banciau mawr yn defnyddio. Erbyn ei farwolaeth, gwelodd Davies y Rhyngrwyd yn symud o ymylon gwyddoniaeth ddamcaniaethol i ganol bywyd bob dydd.
Dim ond yn ddiweddar y mae ei ran yn natblygiad technolegol a newidiodd y byd yn cael ei werthfawrogi yn ei wlad enedigol.
