
74. David Davies (Llandinam)
Arloeswyr (81 o bleidleisiau)
1818 – 1880
Diwydiannwr ac entrepreneur a fu"n cynorthwyo i lunio"r Gymru fodern
Wrth fwrw golwg ar hanes Cymru, nid oedd perchnogion y pyllau glo a meistri haearn y chwyldro diwydiannol yn bobl boblogaidd iawn. Roeddynt yn barod iawn i godi prisiau ac yn barotach fyth i dorri cyflogau, ac fe gofir amdanynt fel rhai oedd yn arddangos yr agweddau gwaethaf o gyfalafiaeth.
O"r criw amhoblogaidd hwn, mae ambell un yn dod i"r amlwg am ei fod yn wahanol. Byddai"r rhain yn creu canolfannau diwydiannol llwyddiannus heb golli teyrngarwch eu cyfeillion na"u gweithwyr, ac yn cyflwyno mesurau fyddai o fantais barhaol i"r cymunedau.
Roedd Hussey Vivian Arglwydd cyntaf Abertawe yn un o"r bobl hynny, felly hefyd W.T. Lewis a ddaeth yn Arglwydd Merthyr, ond heb os nac oni bai, y mwyaf ohonynt i gyd oedd David Davies neu "David the Ocean".
Cafodd ei eni yn Llandinam, Sir Drefaldwyn ac fe ddechreuodd fel llifiwr cyn mynd ati i wneud arian yn trefnu gweithwyr ar gyfer y rheilffyrdd newydd oedd yn cael eu hadeiladu ledled Cymru.
Chwaraeodd ran allweddol yn natblygiad y rheilffordd rhwng y Drenewydd ac Aberystwyth cyn newid cyfeiriad a chanolbwyntio ar y diwydiant glo.
Buddsoddodd ei arian i gyd er mwyn datblygu pyllau glo yn y Rhondda, ar dir oedd wedi"i osod gan deulu"r Crawshay. Diflannodd yr arian yn raddol cyn i Davies ddod o hyd i wythďen broffidiol o lo.
Yn y pendraw nid oedd digon o arian i dalu"r glowyr. Ond roedd gan y gweithwyr ddigon o ffydd ynddo, ac arhosont yn deyrngar iddo. Yn y diwedd, pan roedd hi"n ymddangos ei bod hi ar ben ar Davies yn ariannol, daeth y newyddion fod gwythďen broffidiol iawn wedi ei darganfod ym mhwll Cwmparc yn Nhreorci. Roedd "The Ocean Coal Company" a David Davies ar ben eu digon.
Efallai mai ei fuddugoliaeth fwyaf oedd trechu"r teulu Bute grymus oedd yn rheoli dociau Caerdydd. Nid oedd allforio glo o ddociau Caerdydd yn talu"r ffordd, oherwydd costau cynyddol. Felly, penderfynodd Davies fynd ati i adeiladu ei ddociau ei hun yn y Barri. Cymerodd flynyddoedd i berswadio pobl, ac i Deddf Seneddol gael ei phasio, ond erbyn 1914, porthladd y Barri oedd yr un mwyaf.
Roedd yn gymwynaswr heb ei ail. Cyfrannodd yn helaeth tuag at sefydlu Coleg Prifysgol yn Aberystwyth, ac mae"r byd celfyddydol yng Nghymru wedi elwa hyd heddiw yn sgil buddsoddiad swmpus ei wyresau, Gwendolyn a Margaret, mewn lluniau a cherfluniau gwerthfawr.
Mae eu casgliad amhrisiadwy yn denu nifer fawr o ymwelwyr i Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
