
63. Dafydd Iwan
Arweinwyr (115 o bleidleisiau)
1943 –
Gwleidydd, gŵr busnes a "chanwr-bregethwr" sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth i sawl cenhedlaeth o Gymry.
Pan oedd Dafydd Iwan yn fyfyriwr yn ysgol bensaernďaeth Cymru yng Nghaerdydd yn yr 1960au cynnar - er na fu erioed yn bensaer - teimlai ei fod yn colli allan ar y cyffro wrth i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg gael ei sefydlu. Wedi ymuno â"r Gymdeithas, y bu"n gadeirydd arni rhwng 1968-1971, mae wedi ymgyrchu"n ddi-ball dros Gymru a"i hiaith ac wedi cael llwyddiant aruthrol wrth gyflwyno ei neges mewn caneuon syml "diaddurn".
Ym Mrynaman Uchaf, yn Sir Gaerfyrddin y daeth i"r byd, yn perthyn, ar ochr ei dad, i linach enwog "Bois y Cilie" yng Ngheredigion.
Gan iddo gael ei eni yn fab i weinidog a fyddai"n symud o ardal i ardal, dywed Dafydd nad yw byth wedi dioddef o"r "brogarwch cul hwnnw sy"n llethu cynifer o Gymry". Eto, mae"n cefnogi i"r eithaf yr ymgyrch i ddiogelu"r "ffordd Gymreig o fyw" yng nghefn gwlad Cymru.
Er iddo gael ei gyhuddo yn Awst 2003 o fod yn hiliol, oherwydd iddo awgrymu bod pobl o Loegr yn dod i Gymru i fyw er mwyn dianc rhag mewnfudwyr Asiaidd, dywed ei gefnogwyr ei bod hi"n anodd meddwl am neb sydd yn llai hiliol na Dafydd Iwan, sydd wedi canu yn helaeth yn ei ganeuon am ormes ac anffafriaeth hiliol dros y byd i gyd, gyda"r gân hyfryd i Victor Jara, y cerddor o Chile ymhlith yr enwocaf.
Ynghyd â Huw Jones, pennaeth presennol S4C, sefydlodd gwmni recordiau Sain ym 1969, blwyddyn gythryblus arwisgo"r tywysog Siarl - neu Carlo yng nghân enwog Dafydd Iwan.
Tyfodd y cwmni o"i dŷ rhent bychan yn Llandwrog, Arfon i fod yn brif gwmni recordio Cymru. Mae"n gweithio"n ddygn gyda llu o gymdeithasau, yn gynghorydd sir a bellach mae"n gwisgo coron wleidyddol fel Llywydd Plaid Cymru.
Ar hyd ei yrfa, mae Dafydd Iwan wedi "denu edmygedd a dicter miloedd." Mae hefyd wedi swyno miloedd ar filoedd gyda"i ganeuon - dau gant a mwy ohonynt. Byddai llawer yn mynnu mai oherwydd ymroddiad a dyfalbarhad Cymry fel ef yr ydym ni Yma o Hyd.
