
70. Y Brenin Arthur
Arweinwyr (92 o bleidleisiau)
circa 5th Century AD –
Brenin anfarwol y Brythoniaid neu arweinydd milwrol dibwys - mae"n dibynnu ar eich chwaeth am chwedl
Fel yn achos pob arwr chwedlonol go iawn, mae"n rhwystredig o amhosib i droi at hanes i ganfod y gwirionedd am Frenin Arthur. Fel ef ei hun, ei farchogion a"r Ford Gron, mae"r cyfan ar goll yn niwl y gorffennol.
Er nad oes un cofnod cyfoes amdano wedi goroesi, mae ei enw yn ymddangos am y tro cyntaf yn y testunau cynnar Cymraeg. Credir ei fod wedi arwain y Brythoniaid brodorol at sawl buddugoliaeth fawr dros y goresgynwyr Sacsonaidd.
Mae rhywfaint o dystiolaeth archeolegol yn awgrymu bod ymfudiad y Sacsoniaid i Brydain wedi arafu, neu hyd yn oed wedi gwrth-droi o gwmpas y cyfnod yr oedd Arthur yn byw ynddo. Gall hyn awgrymu fod ei ddylanwad ar gwrs hanes yn nodedig heb fod yn barhaol.
Erbyn i Sieffre o Fynwy ysgrifennu ei Hanes Brenhinoedd Prydain ym 1136, roedd Arthur eisoes yn perthyn i"r gorffennol pell. Nid oedd hynny yn rhwystro Sieffre rhag gwau stori liwgar am ei fywyd, a chyflwyno"r dewin Myrddin, Morgan le Fay, a hanfodion eraill y chwedlau Arthuraidd.
Ychwanegwyd gweddill yr elfennau mytholegol gan awduron Ffrengig - gan gynnwys y cleddyf mawreddog, Caledfwlch, Y Greal Sanctaidd a Chamelod. Fel un oedd yn ymgorfforiad byw o sifalri, roedd dylanwad Arthur yn lledu dros Ewrop gyfan.
Er mai yn Ne-Orllewin Lloegr yn draddodiadol y mae"n cael ei leoli, mae rhai yn dadlau mai Cymru oedd teyrnas Arthur frenin.
Y ddadl yw bod ei ganolfan yng Ngwynllwg ger Caerdydd, a bod Sant Dyfrig wedi ei goroni yng Ngaerllion ar Wysg. Fe allai Camlan, lle y bu farw Arthur, fod gerllaw Dolgellau, ac mae"n bosibl iddo gael ei gladdu yng Nghoed y Mwstwr ger Penybont ar Ogwr.
Wrth gwrs, nid oes gwahaniaeth pa un a yw"r damcaniaethu Arthuraidd dibendraw yma"n wir ai peidio. Oherwydd, fel y dangosodd y cofiannwyr canoloesol mewn ffordd mor effeithiol - fe all Arthur fod yn pwy bynnag yr ydych yn dymuno iddo fod. Arthur y Chwedlau oedd arch-arwr cyntaf ffuglen, ac o bosib ef yw"r mwyaf o hyd.
