Aneurin Bevan

1. Aneurin Bevan

Arloeswyr (2426 o bleidleisiau)

1897 – 1960

Sosialydd penboeth ac areithydd a ystyrir yn dad y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Er na chyrhaeddodd y swydd uchaf mewn gwleidyddiaeth, gellir dadlau mai Bevan yw"r ffigwr fwyaf dylanwadol, ac yn sicr y mwyaf ysbrydoledig yn hanes y Blaid Lafur.

Ar hyd ei oes byddai Bevan yn ennyn adwaith a theimladau cryf. Roedd y cyfuniad o"i areithio pwerus, a"i ddirmyg at ei wrthwynebwyr gwleidyddol yn golygu ei fod bob amser yn denu sylw arbennig. Cafodd ei ddisgrifio unwaith gan Churchill fel "niwsans brwnt". Talodd Bevan y pwyth yn ôl trwy alw pob Tori yn "fermin".

Ganed Bevan i deulu anghydffurfiol yn Nhredegar ar 15 Tachwedd 1897. Gadawodd yr ysgol yn 13 oed, a dechreuodd weithio ym mhwll glo Tytryst ond cafodd ei ddiswyddo am weithredu yn enw Undebaeth Lafur. Ym 1929, cafodd Bevan ei ethol fel aelod seneddol Llafur dros Lyn Ebwy.

Roedd Bevan yn hynod ddawnus. Enillodd sylw a pharch Tŷ"r Cyffredin am ei allu fel areithydd. Byddai nifer o aelodau yn mynychu"r siambr er mwyn ei glywed yn siarad yn unig. Er hynny, yr hyn a gyflawnodd fel Gweinidog yn y Cabinet sydd wedi sicrhau bod ei ddylanwad wedi parhau i"r fath raddau y byddai Bevan ei hun yn ei chael hi"n anodd i gredu.

Fel Gweinidog Iechyd, Bevan fu"n gyfrifol am weithredu un o"r camau mwyaf pellgyrhaeddol yn hanes diwygio cymdeithasol modern. Wrth sefydlu"r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a"r sustem Yswiriant Gwladol, fe fel unigolyn fu"n gyfrifol am greu"r wladwriaeth les gyfoes.

Ymddiswyddodd Bevan o"r llywodraeth ym 1951 dros yr argymhellion i godi tâl am bresgripsiwn. Am gyfnod fe oedd yr un a ymgorfforai"r adain chwith yn y blaid Lafur. Er hynny, ym 1956 cytunodd i ddychwelyd i"r meinciau blaen fel Ysgrifennydd Amddiffyn yr wrthblaid.

Y flwyddyn ganlynol, cafodd ei gefnogwyr gwleidyddol sioc pan gyhoeddodd ei fod yn cefnu ar y ddadl dros ddiarfogi unochrog.

Pan gafodd ei benodi"n Ddirprwy Arweinydd y Blaid Lafur ym 1959, roedd eisoes yn ddyn sâl, a bu farw o gancr ar 6 Gorffennaf 1960.

Eich sylwadau chi

Gofynnwch i unrhyw un ym Mhrydain i enwi gwleidydd Cymreig a wnaeth cyfraniad enfawr a byddai 90% yn ei enwi ef.

Mae ein dyled yn fawr i Aneurin, newidiodd fywyd cymaint o bobl er gwell.

Heb ei ail, y dyn a gyflwynodd y datblygiad cymdeithasol mwyaf yn hanes y wlad, y GIG. Nid oedd y Torïaid ei eisiau, gallai’r Rhyddfrydwyr ond freuddwydio amdano a gallai’r cenedlaetholwyr ond siarad amdano.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru