
45. Yr Athro Steve Jones
Meddylwyr (159 o bleidleisiau)
1944 –
Gwyddonydd, awdur a darlledwr sydd wedi egluro geneteg i filiynau.
Yn ôl Steve Jones, ei ddiddordebau o ran ymchwil yw "heterogenedd gofodol a chynhaliaeth amryffurfedd genynnol mewn Drosophila a molysgiaid." Yn syml iawn mae wedi"i gyfareddu gan bryfed ffrwythau a malwod. I"r rhai sy"n gyfarwydd â"i waith mwyaf poblogaidd, mae"n ddatganiad annodweddiadol o aneglur.
Ei gryfder yw cyflwyno gwyddoniaeth, yn enwedig geneteg ac esblygiad, mewn ffordd syml a dealladwy i bobl gyffredin. Ym 1996 enillodd Fedal Faraday y Gymdeithas Frenhinol am ehangu gwybodaeth y cyhoedd yn y maes hwn.
Fe ddigwyddodd hyn o ganlyniad i lwyddiant ysgubol ei lyfr cyntaf The Language of the Genes, ble mae"n trafod yn syml ac eglur, ddatblygiad cyflym y math hwn o wyddoniaeth sydd â goblygiadau anferthol. Mae"n fan cychwyn perffaith i unrhyw un sy"n ceisio deall arwyddocâd pynciau megis peirianneg genynnol, clonio a DNA.
Mewn gweithiau eraill, megis Darwin"s Ghost a Almost Like a Whale, mae"n trafod esblygiad. Mae Darwin yn arwr arbennig iddo, ac mae"n disgrifio The Origin of Species fel "llyfr y mileniwm". Mae"r egwyddorion sylfaenol a gafodd eu cyflwyno gan Darwin wrth drafod ei theori esblygol yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn dal yn ddiwrthwynebiad hyd heddiw.
Mae llyfr diweddaraf Jones Y: The Descent of Men (mae"r teitl yn deyrnged arall i Darwin) yn croniclo dirywiad cyflwr y cromosom Y ac yn egluro pam fod y rhyw wryw ar drengi, ond nid am gannoedd o filoedd o flynyddoedd eto.
Cafodd Steve Jones ei eni yn Aberystwyth, a bu"n astudio yng Nghaeredin a Chicago cyn cael ei benodi"n Athro Geneteg yng Ngholeg y Brifysgol Llundain ac yn bennaeth labordy enwog Galton.
Mae ei gymwysterau academaidd sylweddol,ynghyd â"i natur wylaidd ddi-lol yn rhannol gyfrifol am ei lwyddiant fel darlledwr.
Yn ôl Steve Jones - "Yn nhermau gwyddonol, rydw i"n eithaf isel yn y drefn flaenoriaeth. "Dyw gwyddonwyr da ddim yn enwog - maen nhw"n siarad mewn ffordd na allwn ni eu deall."
