
67. Yr Athro Clive Granger
Meddylwyr (107 o bleidleisiau)
1934 –
Economegydd ac ystadegydd a enillodd Wobr Nobel
Bob tro y mae hi"n ymddangos fod y byd wedi datrys y problemau o gadw trefn sefydlog ar dyfiant economaidd, mae rhywbeth annymunol yn digwydd. Mae Helynt Môr y De, Cwymp Wall Street a Dydd Mercher Du yn enghreifftiau o "ailgywiriadau" costus fu"n gyfrifol am losgi bysedd y rhai a gwympodd i"w rhwyd.
Yr enw gwyddonol ar geisio rhagweld tebygolrwydd y problemau hyn yw Econometreg. Mae modelau mathemategol ac ystadegol cymhleth yn cael eu datblygu er mwyn osgoi trychinebau o"r math hyn cyn iddynt ddigwydd.
Yn y maes hwn, mae"r Athro Clive Granger yn arweinydd cydnabyddedig byd-eang, a chafodd ei statws ei gadarnhau pan enillodd Wobr Nobel am Economeg yn 2003 - gwobr a rannodd gyda"r Americanwr Robert Engle. Y marchnadoedd arian yw maes arbenigol Engle, ond cryfder Granger yw macro-economeg - sef y darlun ehangach.
Mae Econometreg yn ddisgyblaeth hynod soffistigedig, ac nid dros nos y daeth llwyddiant i Granger. Enillodd y Wobr Nobel am waith sy"n deillio o 1975. Cafodd ei enw ei ystyried yn gyson dros y degawd diwethaf ar gyfer y wobr fwyaf anrhydeddus ym maes economeg.
Ganed Clive Granger yn Abertawe, a threuliodd y rhan fwyaf o"i blentyndod yno cyn i"w deulu symud i ganolbarth Lloegr. Astudiodd Economeg ym Mhrifysgol Nottingham cyn ymgymryd â chyfres o swyddi academaidd ac ymchwil ym Mhrydain a"r Unol Daleithiau. Bu"n athro ym Mhrifysgol California am sawl blwyddyn.
Ar hyn o bryd mae"n athro gwadd yn Canterbury, Seland Newydd, ac yn y fan honno y derbyniodd y newyddion am ei gydnabyddiaeth fwyaf.
Dywedodd wrth y wasg leol: "Yr wyf wedi derbyn sawl anrhydedd, ond ni allwch guro hon. Dyma"r gorau". O blith y 100 o Arwyr Cymru, mae"n un o dri sydd wedi ennill Gwobr Nobel - y ddau arall yw Brian Josephson (Ffiseg, 1973) a Bertrand Russell (Llenyddiaeth, 1950).
