
50. Yr Athro Brian Josephson
Meddylwyr (144 o bleidleisiau)
1940 –
Ffisegydd ac enillydd Gwobr Nobel a ddarganfyddodd "Effaith Josephson" cyn dod yn "arloeswr y paranormal".
Yn yr 1960au cynnar, dysgodd darlithwyr ffiseg ym mhrifysgol Caergrawnt i fod yn ofalus iawn pan roedd gŵr ifanc arbennig o Gaerdydd yn y dosbarth. Yn ôl cydfyfyrwyr iddo, roedd Brian Josephson yn gallu synhwyro gwendid mewn cynnig o bell. Roedd damcaniaethau cyfeiliornus athrawon mewn perygl o gael eu chwalu"n ddarnau mân, ond gyda chwrteisi o"r mwyaf.
Mewn ychydig llai na deng mlynedd roedd ei athrylith wedi ennill iddo nid yn unig lle fel Athro yng Nghaergrawnt, ond hefyd yr Anrhydedd Gwyddonol pwysicaf oll, sef Gwobr Nobel.
Darganfu fel y gallai cerrynt trydanol lifo rhwng dau arch-ddadgludydd (deunydd sydd â dim mymryn o ymwrthedd trydanol), hyd yn oed pan fyddai insiwleiddiwr yn cael ei osod rhyngddynt. Daeth hyn i gael ei adnabod fel "Effaith Josephson", ffenomenon mor aruthrol bwysig fel iddo gael ei gynnwys mewn geiriadur.
Mae"r ddamcaniaeth wedi cael ei gweithredu i greu offer gwyddonol tu hwnt o sensitif yn defnyddio "Cysylltau Josephson". Maent yn medru mesur y maes magnetig o gwmpas ymennydd llygoden, er enghraifft.
Mae"r cysylltiad rhwng ffiseg hynod ddatblygedig fel hyn a sut mae tu fewn yr ymennydd yn gweithio wedi darparu"r sylfaen wyddonol i"r ffenomena paranormal fel telepathi a phlygu llwyau.
Yn 2001, mewn llyfryn i"r Post Brenhinol, oedd yn cyd-fynd a chyhoeddi set o stampiau yn coffau Gwobr Nobel, dywedodd y gall datblygiadau gwyddonol diweddar "arwain at egluro prosesau sydd yn annealladwy o hyd, fel telepathi, maes y mae Prydain ar y blaen o ran ymchwil."
Achosodd gynnwrf ymhlith ei gymheiriaid, gyda"r mwyafrif yn taeru nad oes y fath beth yn bod â thelepathi. Mae Josephson yn nodi bod arbrofion telepathi wedi arwain at ganlyniadau na all tebygoleg yn unig eu hegluro.
Tra bod y gymuned wyddonol barchus yn tueddu i gadw draw o"r maes o hyd, mae"r ffaith bod athrylith fel Brian Josephson yn ymwneud ag ef yn gwneud y paranormal yn bwnc mwy diddorol fyth.
Dywed mae"r egwyddor y mae"n ei ddilyn yw "nullus in verba" - peidiwch â chredu pob gair.
