
46. William Williams (Pant-y-celyn)
Meddylwyr (158 o bleidleisiau)
1717 – 1791
Pregethwr, llenor, bardd ac emynydd mwyaf Cymru, a gafodd ei anrhydeddu â"r teitl haeddiannol y Pêr Ganiedydd
Mab i ffermwr o Gefn-y-Coed ger Llanymddyfri oedd William Williams. Ar ôl iddo golli ei dad, symudodd y teulu i gartref y fam ym Mhantycelyn. Roedd â"i fryd ar fod yn feddyg tan iddo glywed y Methodist carismataidd, Howel Harris, yn pregethu.
Roedd Harris yn awyddus i ddefnyddio pŵer emynau i drosglwyddo ei neges i"r Cymry. Ond roedd prinder deunydd yn yr iaith Gymraeg yn rhwystr.
Ceisiodd ddefnyddio"r Eisteddfod i annog awduron ifanc i gynhyrchu emynau yn ogystal â cherddi traddodiadol. Gafaelodd William Williams yn yr her, gan ysgrifennu mwy nac wyth gant o emynau yn gyfan gwbl tra oedd yn teithio"n ddi-baid ar hyd a lled Cymru i daenu neges yr Efengyl Fethodistaidd.
Er iddo hefyd ysgrifennu tipyn yn Saesneg, y cyfieithiad Saesneg o"i emyn Arglwydd, arwain trwy"r anialwch yw un o"r ychydig bethau sydd wedi goroesi. A dyma"r emyn sy"n cael ei gysylltu â Chymru yn fwyaf aml. Mae"n cael ei ganu ar bob math o achlysuron, megis agoriad Stadiwm y Mileniwm a hefyd angladd Diana, Tywysoges Cymru ym 1997. Mae wedi dod yn emyn cenedlaethol answyddogol, a"r dorf yn ei morio hi pan fo tîm rygbi Cymru yn chwarae. A"r geiriau Saesneg wedi dod yn fwy cyfarwydd na"r Gymraeg gwreiddiol sef
Arglwydd, arwain trwy"r anialwch,
Fi bererin gwael ei wedd,
Nad oes ynof nerth na bywyd
Fel yn gorwedd yn y bedd:
Hollalluog
Ydyw"r un a"m cwyd i"r lan.
Mae"r fersiwn Saesneg poblogaidd yn gyfuniad o waith tri o bobl. Cyfansoddwyd yr alaw, Cwm Rhondda, sy"n gyfrifol i raddau helaeth am boblogrwydd yr emyn, gan John Hughes ym 1907. Ac mae"n debyg i Peter Williams (nid yw"n perthyn) gydweithio â Phantycelyn ar y cyfieithiad Saesneg.
Nid oes yr un emynydd yn rhagori ar William Williams yn ei allu i gyffwrdd â phobl, trwy ei ddefnydd rhwydd o"r iaith, a"i ddull uniongyrchol o gyflwyno"r neges. Nid oes ryfedd iddo gael ei alw yn Bêr Ganiedydd, a bod ei apêl wedi parhau am dros ddwy ganrif hyd heddiw.
