William Henry Preece

73. Syr William Henry Preece

Arloeswyr (86 o bleidleisiau)

1834 – 1913

Arloeswr ym myd cyfathrebu a ddaeth â"r teliffon i Gymru ac a gynorthwyodd Marconi i gyflwyno radio i"r byd.

Ym mis Mai, 1897, llwyddodd Guglielmo Marconi i anfon signal radio o Drwyn Larnog yn ne Cymru i Ynys Echni, dair milltir allan ym Môr Hafren. Roedd hyn yn brawf allweddol y gallai radio weithio dros dd*#373;r, rhywbeth a fyddai"n ddefnyddiol i longau ar y môr oedd am gysylltu â"r tir mawr.

Cafodd Marconi fwy o gymorth gan W.H. Preece na neb. Bum mlynedd ynghynt, roedd Preece wedi defnyddio"r lleoliad ar gyfer ei arbrofion ei hun. Fel prif beiriannydd gyda"r Swyddfa Bost Brydeinig, y GPO, ac yn ddiweddarach fel ymgynghorydd preifat, roedd yn ffigwr allweddol yn y datblygiadau pwysig ym myd cyfathrebu.

Pan oedd yn fachgen yng Nghaernarfon, roedd twrw"r ffrwydro yn y chwareli llechi yn y pellter, wedi ei swyno. Yn edrych ar y ffordd y byddai dŵr yn crychu ar draws llyn yn Eryri, penderfynodd bod yn rhaid i donnau sain hefyd deithio drwy"r awyr yn yr un modd.

Gan ei fod wedi dringo i frig adran beirianneg y GPO, roedd yn y lle iawn i bwyso a mesur gwerth teliffon Alexander Bell, oedd newydd gael patent yn yr UDA. Ym 1877, daeth Preece draw â"r teliffon cyntaf i Brydain, a"r flwyddyn wedyn, dangoswyd i"r Frenhines Victoria sut yr oedd y system yn gweithio.

Dechreuodd y berthynas rhyngddo â Marconi ar ôl i hwnnw fethu â dod o hyd i rywun yn yr Eidal a fyddai"n barod i gefnogi ei system radio. Aeth i Lundain gan obeithio y byddai ei ddyfais yn apelio at rywun pwerus yn y byd morwrol.

Bu cefnogaeth Preece yn gyfrwng i agor y drysau iawn i Marconi. Ar ôl yr arbrofion llwyddiannus yn ne Cymru, y peth nesaf i"w wneud fyddai anfon signalau radio ar draws Môr Iwerydd.

Roedd Preece eisoes wedi cael ei argyhoeddi y byddai maes magnetig y ddaear yn helpu"r tonnau radio i groesi moroedd llydan, er gwaetha"r ffaith fod y byd yn grwn. Ym 1901, llwyddodd Marconi i anfon signalau radio o Gernyw i Newfoundland.

Ar ôl hynny adeiladodd Marconi orsaf radio bwerus yn Waunfawr ger Caernarfon. Erbyn hynny, roedd Preece wedi ymddeol i"w gynefin. Er i"w ymdrechion ef ei hun i ddatblygu system radio bell-ehedol fethu, roedd y cymorth hael a roddodd i"r dyn iau, yn gyfrifol i raddau helaeth am gyflwyno cyfnod y cyfathrebu torfol.

Eich sylwadau chi

Fe wnaeth chwyldroi technoleg.

Arloeswr telegraffiaeth radio a chydweithiwr di-glod Marconi.

Am y gwaith sylfaen di-glod a osodwyd ar gyfer darganfyddiad Marconi.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru