
90. Syr William Grove
Arloeswyr (56 o bleidleisiau)
1811 – 1896
Ffisegydd dylanwadol a "thad y gell danwydd".
Pan fo llongau gofod yr Unol Daleithiau yn siarad â"r ganolfan reoli, mae"r ddyfais sy"n gyrru"r signal yn debyg iawn i"r un a gafodd ei chyflwyno i"r byd gan Gymro o Oes Victoria. Roedd William Grove yn ei alw"n "fatri nwy foltäig". Bellach mae"r byd gwyddonol yn ei hadnabod fel y gell danwydd, ac mae"n cael ei hystyried fel ffynhonnell egni symudol y dyfodol.
Ganed Grove yn Abertawe, a chafodd addysg breifat cyn mynd i Goleg Brasenose yn Rhydychen. Bu"n Athro Ffiseg am flynyddoedd yn y Sefydliad yn Llundain, a chynhyrchodd fatri oedd yn cael ei ddefnyddio i weithio nifer o orsafoedd telegraff cynnar yr Unol Daleithiau.
Roedd ganddo hefyd ail swydd broffidiol fel cyfreithiwr - chwaraeodd ran mewn sawl achos patent a throseddol amlwg - a bu"n gwasanaethu am gyfnod fel barnwr yn y Llys Pleon Cyffredin.
Adeiladodd ac arddangosodd Grove ei gell danwydd elfennol gyntaf ym 1839 ac fe"i disgrifiodd mewn llythyr at gyfnodolyn gwyddonol. Ond, gan nad oedd unrhyw ddefnydd masnachol amlwg i"r ddyfais, bu"n segur am ymhell dros ganrif. Erbyn heddiw, gyda"r holl bryderon am gynhesu byd-eang ac effeithiau niweidiol carbon deuocsid, fe all celloedd tanwydd eto newid y byd.
Maent yn cynhyrchu trydan trwy gyfuno hydrogen ac ocsigen. Mae"n lân, mae"r dechnoleg yn un syml, ac fe"i defnyddiwyd gan NASA i weithio"r systemau ar fwrdd yr Apollo a"r Wennol Ofod.
Yn lle nwyon niweidiol, mae"r celloedd tanwydd yn creu d*#373;r - ar ffurf stêm fel arfer. Oherwydd hynny, maent wedi cael eu defnyddio mewn ceir arbrofol, sy"n cael eu gyrru gan hydrogen. Tra bod y ceir egsotig yma yn dal i fod yn ddrud iawn i"w cynhyrchu, mae yna gystadleuaeth frwd i greu car amgenach ar gyfer y dyfodol, sy"n ymarferol ac yn rhesymol o ran pris.
Yn 2003, fe benderfynodd llywodraeth yr Unol Daleithiau fuddsoddi $1.2 biliwn o ddoleri mewn gwaith ymchwil, ac roedd yr Ysgrifennydd Ynni, Spencer Abraham, yn rhagweld y byddai"r modelau cyntaf yn mynd ar werth yn 2020.
O na fyddai William Grove yma i weld y cyfan.
