
59. W.H. Davies
Pobl Greadigol (135 o bleidleisiau)
1871 – 1940
Awdur a ddatgelodd wendidau cymdeithas Edwardaidd ac a ysgrifennodd farddoniaeth syml ond cofiadwy.
Damwain yn llythrennol oedd hi i William Henry Davies ddod yn awdur. Pan oedd yn byw bywyd "hobo" tlawd yng Nghanada, collodd ei goes wrth iddo geisio neidio ar drên oedd yn symud. Gan nad oedd yn medru gwneud gwaith corfforol wedi hynny, dechreuodd ysgrifennu barddoniaeth, ac anfonodd enghreifftiau o"i waith at George Bernard Shaw.
Synnwyd Shaw yn fawr o ddarganfod awdur cerddi mor drawiadol - "fel dracht o ddŵr glân mewn anialwch" - nad oedd yn ysgolhaig llenyddol ond yn un o drigolion tŷ i grwydriaid yn ne Llundain.
Ganed Davies yng Nghasnewydd, yn Sir Fynwy, ac ni welodd apêl bywyd fel prentis fframio lluniau. Aeth i grwydro, gan fyw o"r llaw i"r genau yn Lloegr ac wedyn yn America. Y profiadau hynny oedd sail The Autobiography of a Super Tramp, a gyhoeddwyd yn gyntaf ym 1908.
Roedd hanes bywyd diofal ond tlawd Davies yn ddigon o ryfeddod a chafodd ei gyhoeddi chwarter canrif cyn Down and Out in Paris and London gan George Orwell, a hanner can mlynedd cyn On the Road gan Jack Kerouac.
Ymhlith ei gerddi, ystyrir Leisure yn glasur hyd heddiw, mae"n cynnwys y geiriau sy"n cael eu dyfynnu mor aml:
What is this life if, full of care,
We have no time to stand and stare?
Mae"r llinellau hyn wedi eu hysgrifennu o dan ei gerflun ynghanol dinas Casnewydd.
Er i lwyddiant Davies fel awdur drawsnewid ei safle mewn cymdeithas, yn fuan cafodd ddigon ar gael ei addoli gan ŵyr llengar Llundain. Gadawodd am lonyddwch y bywyd gwledig, yn Sussex yn gyntaf ac yna"n Swydd Gaerloyw.
Fel un nad oedd yn hoff o gywirdeb cymdeithas gwrtais y cyfnod Edwardaidd, priododd â chyn butain oedd ddeng mlynedd ar hugain yn iau nag ef. Ni chafodd yr hanes a ysgrifennodd am eu bywyd gyda"i gilydd ei gyhoeddi tan 1980.
Yn gydnaws â"i fywyd anghonfensiynol, gadawodd ei eiddo sylweddol i ddyn nad oedd erioed wedi cwrdd ag ef.
