
97. Waldo Williams
Pobl Greadigol (53 o bleidleisiau)
1904 – 1971
Bardd rhamantaidd mwyaf gwreiddiol yr 20fed Ganrif a"r unig fardd Cymraeg erioed i gael ei ddyfynnu gan Archesgob Caergaint.
Cafodd Waldo Williams ei eni yn Hwlffordd, yn fab i ysgolfeistr a chan mai Saesneg oedd iaith yr aelwyd, ni fedrai"r Gymraeg tan i"r teulu symud i Fynachlog-ddu ac iddo yntau, yn saith oed, fynychu ysgol y pentref.
Gyda rhieni oedd yn gapelwyr selog, ond oedd hefyd dan ddylanwad radicaliaid mawr y cyfnod, ac yn heddychwyr a wrthwynebai"r Rhyfel Byd Cyntaf yn chwyrn, magwyd Waldo mewn awyrgylch fyddai"n rhoi llais unigryw iddo"n ddiweddarach, ac a fyddai"n ei arwain at dorri"r gyfraith a charchar am ei safiad yn erbyn rhyfel Corea ym 1950.
Aeth ymlaen o ysgol Ramadeg Arberth, i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth i astudio Saesneg ac yna yn ôl i"w hoff Sir Benfro i fod yn athro.
Roedd yn wrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac mae arswyd rhyfel yn britho ei gerddi yn y cyfnod hwn - gyda"r Tangnefeddwyr sy"n disgrifio "Abertawe"n fflam" yn un sy"n aros yn y cof.
Ym 1959 safodd dros Blaid Cymru yn yr etholiad Cyffredinol, ond nid oedd yn wleidydd wrth reddf. Taenodd ei efengyl fel cenedlaetholwr yn fwy effeithiol o lawer trwy ei farddoniaeth ac fe gafodd ddylanwad gwleidyddol sylweddol ar ymgyrchwyr y genhedlaeth ifanc.
Mae"n siŵr mai Waldo yw"r unig fardd Cymraeg erioed i gael ei ddyfynnu gan Archesgob Caergaint. Yn ei bregeth mewn cynhadledd ryngwladol yn Efrog Newydd ym mis Ebrill, 2003, wrth geisio diffinio beth yw bywyd, dywedodd yr Archesgob Rowan Williams bod "Y bardd Cymraeg, Waldo Williams", yn agos iawn ati pan ysgrifennodd yn ei gerdd Pa beth yw Dyn - y geiriau - Cael Neuadd fawr/Rhwng cyfyng furiau.
