Tommy Cooper

34. Tommy Cooper

Perfformwyr (219 o bleidleisiau)

1922 – 1984

Dyn naturiol ddoniol oedd yn un o hoff ddigrifwyr Prydain.

"Llais llefaru aneglur a golwg hynod o anffodus." Dyna ddywedodd gŵr o"r BBC oedd yn chwilio am dalentau newydd ym 1946. Methodd yn deg â sylwi ar y nodweddion anghyffredin o ddigri oedd yn perthyn iddo, ac a fyddai yn y pendraw yn gyfrifol am ei lwyddiant fel un o hoff ddiddanwyr Prydain.

Roedd gan Tommy Cooper wyneb gwirion. Gydag aeliau trwchus du a gên fain, roedd golwg ddig - ddiniwed barhaol ar yr wyneb o dan y fez , sef ei arwyddnod.

Roedd yn well ganddo frawddegau byr bachog, a blas swrreal arnynt, na jôcs confensiynol, ac roedd yn perfformio fel dyn oedd wedi cael ei wthio i"r llwyfan heb wybod yn iawn pam.

Fel consuriwr, nid oedd ei driciau yn gweithio wrth gwrs. Ond yr hyn oedd yn ddoniol oedd y ffordd yr oeddent yn methu. Er gwaetha"r olwg boenus oedd arno wrth i bethau fynd o chwith, gwaith paratoi trylwyr tu hwnt oedd y gyfrinach i lwyddiant y diddanwr dawnus ac ymroddedig.

Fe"i ganed yn Stryd Llwyn Onn, Caerffili, yn fab i Tom a Getrude Cooper. Symudodd y teulu i Ddyfnaint pan oedd Tommy yn dair oed. Ar ôl gadael ysgol cafodd hyfforddiant fel saer llongau. Rhoddodd gynnig hefyd ar fod yn ddigrifwr.

Yn ystod ei gyfnod yn y rhyfel fel aelod o"r marchoglu, cafodd gyfle i berfformio yn Cairo. Roedd angen het arno ar gyfer ei berfformiad ond sylweddolodd ei fod wedi gadael ei helmed haul ar ôl. Yn ei banic, fe gipiodd fez o ben y gweinydd agosaf ato. Cafodd dderbyniad gwell nag arfer gan y gynulleidfa. Arhosodd y fez ar ei ben am weddill ei yrfa.

Ym 1947 penderfynodd y BBC syrthio ar eu bai, ac fe gafodd Cooper fynd ar yr awyr. Dyma ddechrau gyrfa ddisglair a barodd am dros 37 mlynedd pan oedd galw cyson amdano i ymddangos ar lwyfan ac ar deledu.

Yn debyg i lawer o ddigrifwyr enwog, roedd yn dipyn o ecsentrig pan nad oedd ar lwyfan. Roedd yn ofergoelus iawn, a phan nad oedd yn gwisgo"r Fez ni fyddai byth yn ei gosod a"i phen i lawr, rhag ofn y byddai"n dal "yr ysbrydion".

Daeth y diwedd yn rhy fuan pan gwympodd yn farw yng nghanol perfformiad yn Theatr Ei Mawrhydi yn Llundain. Mae"r atgof ohono yn cael ei gadw"n fyw gan lu o ffans ac mae nifer dda o gyd ddigrifwyr yn eu plith.

Yn 2003 comisiynwyd cerflun efydd naw troedfedd o uchder i sefyll yng nghanol y dref lle y ganedd Cooper, i gofio am un o"r pethau gorau i darddu o Gaerffili ers y caws.

Eich sylwadau chi

Comedïwr a dewin gwych.

Comedïwr y comediwyr, dyn doniolaf ei genhedlaeth.

Roedd yn rhaid i chi fod yn greadigol iawn i feddwl am y pethau yr oedd e’n meddwl amdanynt!!

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru