Thomas Jones

75. Thomas Jones (Thomas Jones, Pencerrig)

Pobl Greadigol (81 o bleidleisiau)

1742 – 1803

Arlunydd arloesol y mae ei dalent wedi ei ail ddarganfod

Ychydig o artistiaid sydd wedi cael eu hailgloriannu i"r un graddau dramatig a Thomas Jones, ar ôl cyfnod mor hir wedi eu marwolaeth. Er i nifer o"i luniau, yn draddodiadol, gael eu hystyried yn dda heb fod yn eithriadol, gwawriodd cyfnod o frwdfrydedd beirniadol newydd yn 2003, pan ddangoswyd cyfres o frasluniau a gafodd eu cwblhau yn Yr Eidal rhwng 1776 - 83.

Fe"u disgrifiwyd gan Waldemar Januszczak o Sianel 5 fel "rhai o"r tirluniau mwyaf gwreiddiol a chyffrous i gael eu cynhyrchu gan unrhyw un, yn unrhyw le yn y ddeunawfed ganrif."

Yn union fel ei athro, Richard Wilson, roedd Thomas Jones yn "arlunydd bonheddig". Roedd yn perthyn i deulu o dirfeddianwyr cyfoethog o ardal Pencerrig yn Sir Faesyfed. Ef oedd yr ail fab, ac aeth i Goleg yr Iesu yn Aberhonddu a Choleg yr Iesu yn Rhydychen.

Yn lle mynd i"r eglwys neu"r fyddin - sef y drefn arferol i feibion iau y boneddigion - roedd wedi rhoi ei fryd ar fod yn arlunydd. Bu"n astudio, i ddechrau, o dan William Shipley yng Nghymru cyn ymuno â Wilson yn ei stiwdio yn Covent Garden.

Roedd Wilson yn dirluniwr hynod o fedrus ac fe gafodd ei gyd-Gymro hyfforddiant trylwyr ganddo yn hanfodion y grefft. Treuliodd bedair blynedd fel arlunydd cymharol lwyddiannus, gyda"i incwm preifat sylweddol yn gefn iddo.

Fel nifer o ddynion ifanc cyfoethog ei gyfnod, dilynodd lwybr y Grand Tour i"r Eidal - ac yn y fan honno y cwblhaodd ei frasluniau enwog.

Llwyddodd i greu rhyw fanylder oedd yn ymylu ar fod yn lun-realistig yn ei bortreadau bychain o olygfeydd Naplaidd a Rhufeinig oedd yn feiddgar, yn oesol ac yn hynod wreiddiol.

Roedd Jones hefyd yn awdur brwd ac yn mwynhau hel clecs am ei gyfoedion enwog. Ystyrir ei atgofion fel yr enghraifft gyntaf o arlunydd yn ysgrifennu ei hunangofiant.

Tra bod Wilson wedi cael ei gydnabod fel ffigwr dylanwadol ers tro, mae"r parch o"r newydd at Thomas Jones yn awgrymu efallai fod yna "ysgol Gymreig" o dirlunio yn ennill ei thir o"r diwedd ym myd arlunio.

Eich sylwadau chi

Peintiwr adeiladau Naplaidd arloesol (a golygfeydd o'i Sir Faesyfed brodorol) sydd wedi’i ailfarnu a’i ailddarganfod yn ddiweddar.

Arlunydd oedd flynyddoedd o flaen ei amser.

Un o’r arlunwyr Prydeinig mwyaf arloesol erioed. Mae ei beintiadau o adeiladau yn yr Eidal yn parhau i edrych yn ffres heddiw.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru