Terry Matthews

68. Syr Terry Matthews

Arloeswyr (95 o bleidleisiau)

1943 –

Entrepreuneur hynod lwyddiannus a enillodd y gystadleuaeth i ddod â Chwpan Ryder i Gymru.

Pan dorrodd drws gwesty anferth Y Celtic Manor, nid oedd yn rhaid i"r staff alw rhywun i"w drwsio. O fewn eiliadau roedd dyn mewn siwt ar ei ben-gliniau gyda sgriwdreifer yn ei law ac o fewn munudau roedd y drws yn gweithio"n iawn unwaith eto.

Ychydig iawn o blith pobl gyfoethocaf y byd sy"n gallu trwsio drysau troi. Mae Syr Terry Matthews yn gymysgedd anarferol iawn o beiriannydd talentog, gwerthwr heb ei ail a gweledydd technolegol.

Fel plentyn yng nghymoedd Gwent byddai"n tynnu ceir i ddarnau mân ac yn adeiladu peiriannau trydan bach. Dywed ei fod yn gwybod y byddai"n llwyddiannus yn ei fywyd pan ddaeth o hyd i ddeilen gynifer ar dir capel Wesleaidd lleol. A "Wesley Clover" yw enw ei gwmni buddsoddi rhyngwladol yn awr gyda chyfraniadau mewn amrywiaeth diamgyffred o fentrau uwch-dechnoleg.

Mae ei hoffter o ddewis enwau corfforaethol sy"n adlewyrchu ei wreiddiau yn ne Cymru - fel Cross Keys, Newbridge a Newport, sydd i gyd wedi cael lle amlwg yn ymerodraeth Matthews - yn awgrymu bod rhywfaint o sentiment yn llechu y tu ôl i"r ymddangosiad allanol croengaled. Pwy arall fyddai"n buddsoddi cannoedd o filiynau o bunnau yn trawsnewid cyn gartref nyrsio, lle cafodd ei eni, i fod yn westy a chanolfan golff a chynadledda fwyaf Ewrop.

Prentis gyda"r GPO, neu Telecom Prydain fel y"i gelwir yn awr, oedd Terry Matthews cyn iddo fynd i goleg y Brifysgol, Abertawe i astudio peirianneg. Tra ar wyliau yng Nghanada, cafodd swydd ac arhosodd yno.

Ar ôl sicrhau benthyciad, sefydlodd gwmni Mitel, sydd, yn ôl y chwedl, yn cynrychioli "Mike and Terry"s lawnmowers". Roedd yn llwyddiant ysgubol yn cynhyrchu ffoniau gwasgu botwm y gallai pobl, am y tro cyntaf, eu fforddio, gan brysuro tranc y dull hen ffasiwn o ddeialu cylchdro.

Ar ôl gwerthu Mitel i"w gyn feistri yn BT, gan ragweld y chwyldro technoleg gwybodaeth, sefydlodd Matthews Newbridge Networks. Yn 2000, prynwyd Newbridge gan y cwmni Ffrengig Alcatel am ychydig o dan £5 biliwn.

Lledodd ei enwogrwydd y tu hwnt i dudalennau materion ariannol y papurau newydd, pan lwyddodd i ddenu y sioe fwyaf ym myd golff i Gymru. Mae"n edrych yn debyg y bydd Cwpan Ryder 2010 y Celtic Manor - fel y mae ei berchennog yn addo - "y gorau yn y byd " yng ngwir ystyr y gair.

Eich sylwadau chi

Fe’i ganed yn y Cymoedd cyn symud i Ganada, ond ni anghofiodd ei wreiddiau ac mae wedi dod â nifer o swyddi a chyfleoedd i’r Cymry.

Biliwnydd Cymreig cyntaf – pa mor greadigol sy’n rhaid i chi fod!

Un o wyr cyfoethocaf Cymru - entruepreneur gwirioneddol. Mae wedi adeiladu cyrchfan o safon fyd-eang o'r enw'r Celtic Manor.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru