T. E. Lawrence

52. T.E. Lawrence

Arloeswyr (143 o bleidleisiau)

1888 – 1935

Archeolegydd, milwr, awdur ac ymgyrchydd dros annibyniaeth Arabaidd

Fe ddechreuodd bywyd anghyffredin T.E. Lawrence o dan amgylchiadau a ystyrid yn gywilyddus yn y cyfnod hwnnw.

Cafodd ei eni yn Nhremadog wedi i"w rieni ffoi rhag beirniadaeth y gymdeithas foesgar yn Nulyn. Roedd ei dad, y barwn Gwyddelig Syr Thomas Chapman, wedi gadael ei wraig am Sarah Guner, mam Lawrence, ac athrawes gartref plant cyfreithlon Chapman. Bu iddynt fabwysiadu"r enw Lawrence wedi iddynt ffoi gyda"i gilydd.

Er mai byr oedd eu harhosiad yng Nghymru, - symudodd y teulu i"r Alban ymhen rhyw flwyddyn - am fod Lawrence wedi ei eni yn Nhremadog, roedd yn gymwys i dderbyn ysgoloriaeth Gymreig i Goleg yr Iesu yn Rhydychen, lle y daeth tro ar fyd iddo.

Bu"n astudio Archeoleg yn Rhydychen ac yno y dechreuodd ei ddiddordeb a barodd hyd y diwedd, mewn diwylliant Arabaidd. Ymwelodd â"r Dwyrain Canol sawl tro cyn ymuno â"r fyddin ar ddechrau"r Rhyfel Byd Cyntaf ym 1914.

Anfonwyd Lawrence i"r pencadlys Prydeinig yn Cairo lle cafodd ei benodi"n swyddog cyswllt gyda"r llywodraethwyr Arabaidd lleol. Roedd ansawdd ei gysylltiadau a"r ffaith eu bod yn ymddiried cymaint ynddo yn ei osod mewn sefyllfa gref i gynorthwyo"r gwrthryfel Arabaidd yn erbyn y Tyrciaid, oedd, bryd hynny, yn bŵer rhanbarthol pwysig iawn.

Gyda"i gilydd, buont yn llwyddiannus ar sawl achlysur yn erbyn y Tyrciaid, ac fe gipiwyd Aqaba, oedd yn cael ei ystyried yn anhreiddiadwy gan y penaethiaid Prydeinig.

Ar ôl y rhyfel, bu Lawrence mewn cynhadledd heddwch ym Mharis, ond cafodd ei siomi"n fawr pan wrthodwyd annibyniaeth i unrhyw un o"r gwledydd Arabaidd newydd.

Treuliodd Lawrence ail hanner ei fywyd yn cilio rhag yr enwogrwydd a ddaeth i"w ran yn ei ddyddiau cynnar. Ymunodd â"r Llu Awyr dan y ffugenw Awyrluyddwr Ross. Mewn llythyr ato, mae Noel Coward yn ei bryfocio am ei awydd i fod yn anhysbys, Mae"n ei gyfarch fel hyn: : "Annwyl 338171, neu a alla" i eich galw"n 338"?

Pan ddatgelwyd pwy ydoedd mewn gwirionedd, fe ddychwelodd Lawrence i"r fyddin a chofrestru fel Preifat Shaw. Bu farw mewn damwain beic modur pan oedd yn 46, gan adael ar ei ôl ei hunangofiant The Seven Pillars of Wisdom, sydd bellach yn glasur.

Eich sylwadau chi

Rebel anghonfensiynol a oedd yn fodlon sefyll ar ei ben ei hun dros ei egwyddorion hyd yn oed pan oedd pawb arall yn dweud ei fod yn anghywir.

Am ddewder ac arweinyddiaeth hynod yn wyneb trallod.

Mae’n debyg bod y gwr hwn yn perthyn i’r categorïau i gyd – gan gynnwys Perfformiwr! Mae’n cymryd unigolyn unigryw iawn i gyflawni’r hyn a wnaeth yn Arabia, ac felly rydw i wedi’i ddewis fel Arloeswr.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru