Tanni Grey Thompson

25. Tanni Grey Thompson OBE

Arloeswyr (432 o bleidleisiau)

1969 –

Athletwraig anhygoel o lwyddiannus sy"n cael ei chanmol am newid ymwybyddiaeth pobl o anabledd

Yn ôl papur newydd y Guardian, mae Tanni Grey-Thompson "wedi gwneud llawer mwy na faint bynnag o ymgyrchwyr sy"n clymu eu hunain wrth glwydi Stryd Downing, i normaleiddio agweddau tuag at ddefnyddwyr cadair-olwyn."

Yn sicr, nid oedd wedi ymroi i greu"r fath effaith - er, gan bod ganddi radd mewn Gwleidyddiaeth a Gweinyddiad Cymdeithasol, nid oes angen darlith arni ynglŷn â beth yw cydraddoldeb. Os yw Tanni Grey-Thompson wedi newid agweddau, mae wedi llwyddo i wneud hynny trwy fod yn hi ei hun - sef athletwraig tu hwnt o ddawnus ac ymroddedig.

Fel plentyn oedd wedi gwirioni"n llwyr ar chwaraeon, roedd hi"n addoli Gareth Edwards - ei henwebiad hi ar gyfer 100 o Arwyr Cymru - ac fe aeth i"r afael ag unrhyw gamp oedd ar gael iddi. Pan roedd hi"n ddisgybl yn ysgol Sant Cyres ym Mhenarth, dechreuodd Tanni gystadlu mewn athletau cadair-olwyn, gan ryfeddu pawb pan enillodd bencampwriaeth iau Cymru yn 15 oed.

Wedyn, aeth i"r pair chwaraeon ym Mhrifysgol Loughborough lle yr aeth ati i fagu cryfder, ac yn llawn mor bwysig, i ddatblygu ei thechneg rasio. Daeth allan o"r coleg i fod yn un o"r mwyaf llwyddiannus yng ngemau"r Paralympig 1992, gan sgubo"r gwobrau i gyd - yn ennill medal aur yn y 100, 200, 400, a"r 800 medr.

Mae hi wedi ennill 13 o fedalau Paralympaidd i gyd, 9 yn rhai aur yng ngemau Barcelona, Atlanta a Sydney. Go brin mai dyna fydd diwedd ei gyrfa wrth iddi ymestyn ymlaen am fwy o glod a bri eto, a gyrfa i"w chymharu ag un hirhoedlog Syr Steve Redgrave.

Ei gwendid, efallai, yw rhoi"r argraff - i"r sawl nad yw"n gwybod am y can milltir yr wythnos mae"n gwneud yn ei sesiynau ymarfer mynych - nad yw"r llwyddiant sydd wedi dod i"w rhan yn gofyn am ymdrech. Mae gwedd allanol y ferch lawen hyderus yn cuddio"r dycnwch sydd dan yr wyneb.

Erbyn hyn, mae Tanni Grey-Thompson, sy"n fam i Carys Olivia, yn mwynhau gyrfa arall fel cyflwynydd teledu. Mae hi hefyd wedi ysgrifennu ei hanes hyd yn hyn mewn llyfr - Seize the Day. Dylai yr hyn a wna â gweddill ei bywyd hefyd wneud llyfr diddorol iawn.

Eich sylwadau chi

Mae llwyddiannau neilltuol Tanni, yn fy marn i, nid yn unig wedi poblogeiddio chwaraeon yr anabl yng Nghymru, ond wedi gwneud mwy ohono’n brif ffrwd. Gofynnwch i’r rhan fwyaf o bobl Cymru pwy yw ac mae'n debyg mai, athletwr NID athletwr “anabl” byddai eu hateb – llwyddiant anhygoel.

Dewch ymlaen, mae’n rhyfeddol, arwr gwirioneddol.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru