Sir Kyffin Williams

40. Kyffin Wiliams (Syr Kyffin Williams RA)

Pobl Greadigol (170 o bleidleisiau)

1918 –

Un o hoff arlunwyr cyfoes Cymru, a ddechreuodd beintio ar gyngor meddyg.

Dechreuodd Kyffin Williams beintio"n fuan wedi i"w feddyg ddweud wrtho ei fod yn dioddef o epilepsi ac mai doeth fyddai iddo ymgymryd â gwaith na fyddai"n rhoi llawer o straen arno. Felly y dechreuodd gyrfa sydd wedi ymestyn dros saith degawd, ac wedi goroesi sawl ffasiwn mewn celfyddyd gain.

Cafodd Williams ei eni yn Sir Fôn i deulu o ffermwyr cefnog oedd wedi gweld dyddiau gwell. Aeth i ysgol fonedd yn yr Amwythig, fel y gwnâi llawer o feibion teuluoedd cyfoethog Cymru, ond ni allai ei rieni fforddio"r £200 oedd angen arno i fynd yn swyddog yn y fyddin.

Yn lle hynny, bu"n gwasanaethu yn rhengoedd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig o 1936 - 1941, cyn i epilepsi roi terfyn ar ei yrfa fel milwr. Dechreuodd astudio Celf yng Ngholeg Slade yn Llundain, ond dywed na chafodd ei wir ysbrydoli tan iddo weld gwaith arlunydd y Dadeni Eidalaidd, Pierro Della Francesca.

Cynhaliodd ei arddangosfa un-dyn gyntaf ym 1949, pan oedd eisoes wedi cael gwaith fel athro celf yn ysgol Highgate, lle yr arhosodd hyd nes iddo ymddeol yn yr 1970au cynnar.

Mae llawer o"i waith llwyddiannus yn dywyll ei ansawdd, a gwelir hynny ar ei orau yn ei beintiadau o foroedd stormus a llechweddau yn cael eu chwipio gan law. Mae"r arlunydd yn awgrymu y gallai hynny gynrychioli ei "ddicter cuddiedig" oedd o ganlyniad i"w gyflwr meddygol.

Yr ansawdd hwn, efallai, sydd yn gwneud ei dirluniau mor nodweddiadol Gymreig er ei fod yn hoff o atgoffa pobl nad oes gair Cymraeg am "landscape". (Onid yw Kyffin Williams wedi clywed am y gair "tirlun"?) Yn ei bortreadau, mae pobl yn aml yn ymddangos yr un mor arw â"r tir y naddwyd hwy ohono.

Anaml y gwelir adeilad cyhoeddus pwysig yng Nghymru nad yw"n gallu brolio ei fod yn meddu ar o leiaf un llun gan Syr Kyffin Williams.

Eich sylwadau chi

Arlunydd a pheintiwr gwych a oedd yn cael ei barchu’n fyd-eang.

Credaf fod ei waith yn dal gwir natur Cymru, ysbryd gwyllt, rhydd a hardd.

Peintiwr Prydeinig mwyaf arwyddocaol ei gyfnod.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru