
51. Henry Morton Stanley
Arloeswyr (143 o bleidleisiau)
1841 – 1904
Mab anghyfreithlon ffermwr o Sir Ddinbych, a ddaeth yn un o"r fforwyr ac anturwyr enwocaf erioed.
Roedd plentyndod Henry Morton Stanley yr un mor ddramatig â"i orchestion enwog yn Affrica.
John Rowlands oedd ei enw yn wreiddiol. Roedd yn blentyn siawns yn ystod cyfnod pan oedd hynny yn cael ei ystyried yn warth o beth. Treuliodd ei flynyddoedd cynnar mewn wyrcws yn Llanelwy, cyn iddo redeg i ffwrdd i"r môr yn 16 oed.
Teithiodd i"r UDA lle y cymerodd enw ei dad mabwysiedig yn New Orleans. Ymladdodd dros y ddwy ochr yn Rhyfel Cartref America cyn iddo fynd yn newyddiadurwr.
Fel gohebydd, daeth yn un o sêr cyntaf y New York Herald a chafodd gomisiwn i fynd i chwilio am Livingstone, y cenhadwr mawr a"r fforiwr o"r Alban, oedd eisoes wedi croesi anialwch y Kalahari ac wedi darganfod Rhaeadrau Fictoria ac afon Zambesi.
Roedd Livingstone wedi cychwyn ar ei daith i fynd i chwilio am darddiad yr afon Nîl, ond ni chlywyd gair wrtho am sawl blwyddyn.
Heb unrhyw gyfyngiadau ariannol arno, arweiniodd Stanley fintai i berfeddion Affrica. Byddai"n cymryd mwy na dwy flynedd iddo ddod o hyd i"w ddyn.
Daeth o hyd i Livingstone yn y diwedd mewn ardal anghysbell o"r wlad a elwir erbyn hyn yn Tanzania. Er bod cyfarchiad Stanley erbyn hyn yn rhan o chwedl, mynnai Livingstone nad oedd ef ar goll, ac yn ôl y sôn, roedd braidd yn flin bod dyn papur newydd anturlon wedi "dod o hyd iddo".
Serch hynny, roedd yn sgŵp byd-eang a oedd yn dangos sut gallai newyddiadurwyr greu newyddion drwy roi eu hunain yng nghanol y stori. Roedd y digwyddiad cyfryngol wedi dechrau.
Yn wladychwr eofn, agorodd Stanley ardaloedd newydd o gwmpas yr afon Congo a gafodd eu meddiannu wedyn gan Wlad Belg, gan osod y seiliau i"r wlad a elwir heddiw yn Weriniaeth Congo.
Yn ddiweddarach, ysgrifennodd Stanley doreth o weithiau am ei anturiaethau, a phan ddaeth eilwaith yn ddinesydd Prydain, bu"n aelod seneddol dros Ogledd Lambeth.
