Sir Clough William-Ellis

62. Clough Williams-Ellis

Pobl Greadigol (120 o bleidleisiau)

1883 – 1978

Pensaer dylanwadol a greodd ei bentref perffaith ym Mhortmeirion.

Mae cofgolofnau wedi cael eu codi er cof am sawl un o"n harwyr Cymreig. Mae ambell sgwâr a chanolfan siopa wedi cael eu henwi ar ôl un neu ddau arall. Cofeb Clough Williams-Ellis yw"r pentref y treuliodd ef hanner canrif yn ei greu.

Mae pentref Portmeirion wedi"i leoli ar lannau Bae Tremadog, ac mae"n sefyll fel prifddinas rhyw dir ffantasi neo-glasurol. Mae"r adeiladau - ambell un wedi eu cludo yno mewn darnau - yn adlewyrchu amrywiaeth o ddylanwadau Ewropeaidd a Dwyreiniol. Mae"r cyfan yn gampwaith unigryw a hudolus.

Roedd y pensaer mawr Cymreig-Americanaidd, Frank Lloyd Wright wedi"i gyfareddu. Yn ystod ei unig ymweliad â gwlad ei gyndadau, aeth yn syth i bentref Portmeirion.

Cafodd ei amlygu fel "The Village" yn y gyfres deledu The Prisoner, ac awyrgylch arbennig Portmeirion sy"n bennaf gyfrifol am boblogrwydd hir dymor y gyfres honno. Fe ysgrifennodd Noel Coward "Blithe Spirit" yno.

Sefydlodd Clough Williams-Ellis ei gwmni ei hun tra yn ei ugeiniau cynnar, ac roedd, i bob pwrpas, yn bensaer hunan ddysgedig. Roedd ei lwyddiant yn rhoi"r rhyddid iddo ganolbwyntio"n llwyr ar ei weledigaeth greadigol ym Mhortmeirion.

Cafodd y pentref ei agor i"r cyhoedd am y tro cyntaf ym 1926. Ond, gydag adeiladau newydd yn cael eu hychwanegu bob blwyddyn, ni chafodd y gwaith ym Mhortmeirion ei gwblhau tan 1972. Erbyn hynny roedd Syr Clough, oedd newydd gael ei urddo"n farchog, yn ei nawdegau.

Chwaraeodd Syr Clough ran allweddol yng nghadwraeth amgylchfyd Prydain. Fe sefydlodd Cyngor Diogelu Lloegr Wledig, ac yn hwyrach sefydlwyd Cyngor Diogelu Cymru Wledig.

Roedd y cyrff ymgyrchu hyn yn bennaf gyfrifol am sefydlu"r Parciau Cenedlaethol - gyda thri ohonynt yng Nghymru - yn ogystal â"r Lleiniau Gleision er mwyn diogelu rhag blerdwf trefol.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf bu"n gwasanaethu gyda"r Gwarchodlu Cymreig a"r Corfflu Tanc Brenhinol a chafodd ei anrhydeddu gyda"r Groes Filwrol.

Mae datganiad parhaol Portmeirion - bod adeiladau yn gallu cyfoethogi yn hytrach na difwyno eu hamgylchedd - yn sefyll fel un na ddylid ei anwybyddu gan benseiri na chynllunwyr.

Eich sylwadau chi

Ef gynlluniodd Portmeirion, sy’n unigryw.

Rhoddodd un o’r tirnodau o waith dyn mwyaf gwahanredol i Gymru a gweithiodd yn galed i ddiogelu harddwch naturiol Cymru drwy sefydlu Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig.

Roedd yn credu mewn diogelu ein pensaernïaeth/diwylliant/treftadaeth er ei fod yn cymeradwyo adeiladau newydd chwaethus.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru