
10. Saunders Lewis
Arweinwyr (1601 o bleidleisiau)
1893 – 1985
Awdur dadleuol ac arwr ymhlith cenedlaetholwyr a argymhellodd weithredu uniongyrchol fel dull o amddiffyn cymunedau Cymraeg.
Yn ôl ei ddilynwyr, mae"n dyled ni i Saunders Lewis yn enfawr. Yn ogystal â"i gynnyrch llenyddol - roedd yn ddramodydd, yn fardd ac yn nofelydd - roedd ei ddylanwad ar wleidyddiaeth Cymru yn yr 20fed ganrif yn enfawr. Fel un o sylfaenwyr Plaid Cymru, mae"n arwr i genedlaetholwyr, ond nid yw"n ffefryn ymhlith y rhai nad ydynt yn rhannu"i weledigaeth.
Ganed Saunders yn swydd Gaer ym 1893 a magwyd ef fel aelod o gymdeithas Gymreig Glannau Mersi. Ond mae"n debyg bod y profiad a gafodd wrth ymladd ochr yn ochr â milwyr Gwyddelig yn y Rhyfel Byd Cyntaf wedi effeithio"n fawr arno. Bu hynny o gymorth iddo lunio ei argyhoeddiadau ei hun am bwysigrwydd hunaniaeth Gymreig. Ond yn wahanol i"r gweriniaethwyr digyfaddawd Gwyddelig, nid oedd yn argymell trais yn erbyn y rheiny oedd yn cynrychioli"r wladwriaeth Brydeinig.
Ym 1936, fe roddodd Saunders a dau genedlaetholwr arall, ganolfan yr Awyrlu ym Mhenyberth, yn Llŷn ar dân. Aethant at yr heddlu i gyfaddef eu trosedd, gan hawlio bod y ffaith eu bod yn heddychwyr ac yn genedlaetholwyr yn cyfiawnhau"r weithred.
O ganlyniad i losgi Penyberth, collodd Saunders ei swydd fel darlithydd prifysgol, ac o dan amgylchiadau dadleuol iawn, cynhaliwyd yr achos llys yn eu herbyn yn yr Old Bailey yn Llundain. Dedfrydwyd y tri i naw mis o garchar.
Mewn darlith radio ym 1962 honnodd bod "adfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru yn ddim llai na chwyldro. Dim ond trwy ddulliau chwyldroadol y gallwn lwyddo." Arweiniodd y ddarlith at sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a bu"n ysbrydoliaeth i"r ymgyrchoedd gweithredu uniongyrchol yn ystod y blynyddoedd wedi hynny.
Heb amheuaeth, bu ymgyrchoedd y Gymdeithas yn rhannol gyfrifol am sefydlu S4C ym 1982, ac am greu Deddf yr Iaith Gymraeg ym 1993.
Cafodd Saunders ei enwebu ddwywaith ar gyfer Gwobr Nobel am lenyddiaeth. Roedd yn ddyn o argyhoeddiad crefyddol dwfn, ac fe drodd at y ffydd Gatholig. Ni all hyd yn oed ei feirniaid llymaf wadu ei ddylanwad parhaol ar y ddadl ddeallusol dros ddyfodol y gymdeithas yng Nghymru.
