R. S. Thomas

14. R.S. Thomas

Pobl Greadigol (898 o bleidleisiau)

1913 – 2000

Bardd clodwiw ac offeiriad oedd yn galarnadu dros "hunanladdiad diwylliannol" ei famwlad

Mae rhan helaeth o gynnyrch RS Thomas yn peintio darlun sy"n fwy llwm na thomen sbwriel mewn storm eira, ac yn debyg i"r ffordd yr ymddangosai ef ei hun i"r byd y tu allan. Daeth o hyd i loches yng nghefn gwlad Cymru, ac oddi yno, fe lambastiodd ei gydwladwyr a bywyd modern yn gyffredinol.

Yn Welsh Landscape ysgrifennodd am "bobl ddiymadferth, yn afiach oherwydd mewnfridio, yn tarfu ar sgerbwd hen gân". Mae"n un o"i frawddegau enwocaf - yn ddigyfaddawd, yn danbaid, ac yn annhebyg iawn o gael ei mabwysiadu fel slogan marchnata.

Go brin y byddai hynny"n poeni RS. Duw a natur oedd yn ei ysbrydoli. Roedd yn dweud yn aml fod "Duw yn symud mewn dirgel ffyrdd ac roedd gwisgo coler gron am wddf RS Thomas yn ddirgelwch gwirioneddol."

Er iddo wasanaethu fel offeiriad mewn nifer o blwyfi yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru, gallai ymddangos weithiau fel cymeriad anghynnes. Roedd y teimladau a fynegodd yn ei gerddi mwyaf blin yn dueddol o fod yn eithafol fel rhai o"i syniadau gwleidyddol.

Roedd yn genedlaetholwr ac yn weriniaethwr brwd nad oedd yn gallu derbyn bod Plaid Cymru yn cydnabod y wladwriaeth Brydeinig. Roedd hefyd yn cefnogi gweithredu gwleidyddol, gan gynnwys llosgi tai haf Saeson.

Er hynny, fe briododd Saesnes (mae cariad yn goresgyn popeth), siaradodd Saesneg gydag acen ffurfiol Rhydychen, anfonodd ei fab i ysgol fonedd ac fe dderbyniodd Fedal Barddoniaeth y Frenhines.

Ni ddysgodd RS Thomas yr iaith Gymraeg nes ei fod mewn tipyn o oed. Mynnai ei fod yn rhy hwyr i farddoni yn yr iaith. Ag eithrio ei hunangofiant Neb, a rhai darnau o ryddiaith, Saesneg oedd unig gyfrwng ei waith, er ei fod ar yr un pryd yn galaru dros ddirywiad - hunanladdiad oedd ei air ef - yr hen iaith.

Er gwaethaf ei wrthddywediadau mynych, awgrym efallai o"r hiwmor sych drygionus oedd yn amlwg i"w ffrindiau, fe ddylai cryfder ei farddoniaeth sicrhau y bydd yn parhau"n boblogaidd am genedlaethau i ddod.

Ysgrifennodd John Betjeman yn ei ragair i gasgliad RS Thomas, Song At The Year"s Turning: "Bydd yr enw sydd wedi cael yr anrhydedd o gyflwyno"r bardd arbennig yma i gynulleidfa ehangach, yn mynd yn angof ymhell cyn un RS Thomas."

Eich sylwadau chi

Mae ei falchder a’i hyder yn cyd-fynd yn unig â’i huodoledd.

Mae ei farddoniaeth yn real ac amrwd iawn – ei gariad at Gymru ac eto’r tristwch a’r diflastod.

Yn syml, bardd o safon fyd-eang.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru