Roy Jenkins

42. Roy Jenkins (Arglwydd Jenkins o Hillhead)

Arweinwyr (165 o bleidleisiau)

1920 – 2003

Gwleidydd Prydeinig amlwg wedi"r rhyfel a "thaid Llafur Newydd"

Ym Mhrydain yn ystod yr 1940au roedd erthyliad a gwrywgydiaeth yn anghyfreithlon, roedd hi"n anodd cael ysgariad ac roedd rhaid cael caniatâd yr Arglwydd Siambrlen cyn perfformio drama.

Yn rhinwedd ei swydd fel yr Ysgrifennydd Cartref rhwng 1965 a 1967, ysgubwyd y cyfyngiadau hyn o"r neilltu, ac fe gyflwynodd Roy Jenkins "Y Gymdeithas Oddefol" - rhywbeth yr oedd wedi dadlau o"i phlaid mewn pamffledyn dylanwadol yn yr 1950au.

Roedd hefyd yn un o"r Cangellorion mwyaf llwyddiannus wedi"r rhyfel, yn gwneud llawer i adfer yr hyder yn economi Prydain yn sgil dibrisiad y bunt ym 1967.

Roedd yn gredwr cryf yn Ewrop ac ef oedd y Prydeiniwr cyntaf i ddod yn Llywydd ar y Comisiwn Ewropeaidd ym Mrwsel, swydd y bu ynddi o 1976 hyd at 1981.

Er taw"r diwygiadau cymdeithasol rhyddfrydig oedd gwir gyfraniad Roy Jenkins i"r byd gwleidyddol, mae wedi"i ddisgrifio hefyd - gan neb llai na Tony Benn - fel "taid Llafur Newydd". Ddegawdau cyn y Blairites, roedd Jenkins wedi clustnodi"r ffordd ganol rhwng sosialaeth wladol y chwith a chyfalafiaeth laissez faire y dde.

Dyma"r rheswm iddo adael y blaid y bu"n aelod ohoni ers ei fachgendod. Ynghyd â thri aelod goleuedig arall o"r blaid Lafur, sefydlodd y Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol.

Cafodd yr SDP a"i "Gang o Bedwar" gyfnod llwyddiannus ond byrhoedlog tra roedd y gwrthdaro rhwng y Blaid Lafur a"u haelodau milwriaethus yn digwydd. Un o fuddugoliaethau mwyaf Roy Jenkins oedd cipio Glasgow Hillhead mewn isetholiad dramatig ym 1982.

Er iddo fod yn driw i"r Democratiaid Rhyddfrydol, a ffurfiwyd wedi i"r SDP ymuno â"r Rhyddfrydwyr ym 1988, roedd Roy Jenkins hefyd yn gynghorwr ac yn gyfaill mynwesol i Tony Blair.

Roedd yn hoff iawn o winoedd da, bwyd da a chwmni aristocrataidd, ond roedd yn fwyaf cyfforddus y tu ôl i fyrddau uchel Rhydychen, lle bu"n Ganghellor y Brifysgol ar ddiwedd ei oes.

Fel mab i löwr, a fu hefyd yn aelod seneddol dros Lafur ac yn gynorthwywr seneddol i Clement Atlee, roedd Roy Jenkins yn aelod o"r dosbarth gwleidyddol o"i gorun i"w sawdl.

Eich sylwadau chi

Unig gwir Ysgrifennydd Cartref Rhyddfrydol Prydain wedi’r rhyfel. Fe foderneiddiodd y ddeddf ar wrywgydiaeth gan alluogi cymdeithas oddefol. A mab i löwr o Drefynwy!

Ysgrifennydd Gwladol gorau a gafodd Prydain erioed.

Un o’r gwleidyddion pwysicaf a mwyaf dylanwadol yr 20fed ganrif ym Mhrydain.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru