
49. Ron Davies
Arweinwyr (145 o bleidleisiau)
1946 –
Pensaer y cynulliad Cenedlaethol a ffigwr ganolog yng ngwleidyddiaeth Cymru cyn i gyfres o sgandalau ddod â"i yrfa i ben.
Pan aeth y Cymry i bleidleisio ar fater datganoli ar Ddydd Gŵyl Dewi 1979, "Na" i Gynulliad Cenedlaethol oedd pleidlais y mwyafrif llethol.
Ar ôl 18 mlynedd o lywodraeth Geidwadol, dychwelodd Llafur i rym, ac roedd datganoli yn ôl ar yr agenda. Ar 18 Medi 1997, cynhaliwyd refferendwm arall. Wedi noson hir, pan roedd hi"n ymddangos mai colli fyddai"r hanes unwaith eto, dangosodd y canlyniad bod mwyafrif bychan o blaid. Dangosodd hyn newid mawr yn y farn gyhoeddus a gall Ron Davies gymryd tipyn o"r clod am hynny.
Fel Ysgrifennydd Cymru, fe gyfannodd llawer o"r rhaniadau mewnol yn y blaid Lafur a oedd yn niweidio"r ddadl dros ddatganoli yn y saith degau. Roedd Deddf Llywodraeth Cymru a lywiodd Ron Davies drwy"r senedd yn paratoi"r ffordd i bwerau Ysgrifennydd Cymru oedd yn cael ei benodi yn Llundain i gael eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd a fyddai"n cael ei ethol yn uniongyrchol.
Tra ei fod yn ymatal rhag rhoi"r grym i"r corff newydd i godi trethi ac i lunio deddfau, roedd yn ddigon i adeiladu carfan o blaid datganoli oedd yn cwmpasu Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a phawb ond dyrnaid o amheuwyr Llafur.
Dechreuodd gyrfa wleidyddol Ron Davies fel cynghorydd ifanc yng Nghaerffili ar ddiwedd yr 1960au. Daeth yn aelod seneddol lleol ym 1983 ac Ysgrifennydd Cymru yr wrthblaid ym 1992.
Ar ôl ei fuddugoliaeth yn y refferendwm, roedd yn barod i adael San Steffan i fod yn Brif Weinidog yng Nghaerdydd. Ond ar gomin Clapham un noson o Hydref ym 1998, fe ildiodd i"r hyn y mae ef wedi disgrifio fel "moment orffwyll". Gorfododd hyn iddo ymddiswyddo o"r cabinet.
Er i bleidleiswyr Caerffili gadw ffyrdd yn Ron Davies, daeth ei obeithion o ddychwelyd i"r swydd i ben yn 2003. Ar ôl iddo wadu mwy o honiadau am ei fywyd personol yn y wasg dabloid, cafodd ei orfodi i gyfaddef iddo ddweud celwydd er mwyn ceisio amddiffyn yr hyn oedd ar ôl o"i enw da. Gadawodd y cynulliad yr oedd ef wedi gwneud cymaint i"w greu, gyda"i hygrededd yn deilchion.
