
87. Robert Recorde
Meddylwyr (57 o bleidleisiau)
1510 – 1558
Dyfeisiwr yr hafalnod a "thad mathemateg Prydain".
"Noe 2 thynges can be moare equalle". Dyna ysgrifennodd Robert Recorde wrth gyflwyno"r syniad o ddefnyddio dau gysylltnod, un ar ben y llall, i gyfleu cydbwysedd hafaliad.
Er ei bod wedi cymryd cryn amser cyn i"r hafalnod gael ei ddefnyddio"n gyffredinol, go brin fod yna unrhyw ddyfais arall gan Gymro wedi cael ei ddefnyddio"n amlach.
Mae"r wybodaeth am ddyddiau cynnar Recorde yn Ninbych y Pysgod yn ddigon prin - ond yn y dref honno yn Sir Benfro y cafodd ei eni i rieni y credir bod eu gwreiddiau yn lleol ac yn Sir Drefaldwyn. Mae"n rhaid ei fod yn blentyn rhyfeddol gan iddo fynd i Brifysgol Rhydychen yn 15 oed, a chael ei ethol yn Gymrawd yn All Souls chwe blynedd yn ddiweddarach.
Yng nghyfnod y Tuduriaid, cafodd nifer o Gymry talentog swyddi amlwg nad oedd ar gael iddynt cyn hynny. Manteisiodd Recorde i"r eithaf ar y cyfle wrth ymgyfeillachu â"r Arglwydd Amddiffynnydd, Edward Seymour â"i penododd yn rheolwr y bathdy ym Mryste.
Yn dilyn cwymp Seymour, fe gafodd Recorde ei benodi i oruchwylio mwyngloddiau"r brenin yn Iwerddon - swydd ddiddiolch a fyddai"n profi"n hunllef iddo yn y dyfodol. Roedd yn ddigon gwirion hefyd i wneud gelyn o"r Iarll Penfro pwerus - penderfyniad a fyddai"n achosi cryn drafferth iddo cyn diwedd.
Roedd ei waith academaidd ar y llaw arall yn fwy llwyddiannus o lawer. Mae"n ymddangos iddo fynd ati i ysgrifennu gwerslyfrau mathemateg yn Saesneg er mwyn sicrhau eu bod ar gael i bawb. Roedd mwyafrif y gwaith cyn hynny ar gael mewn Lladin ysgolheigaidd yn unig.
Fe gyflwynodd Algebra i siaradwyr Saesneg - ymddangosodd y gair am y tro cyntaf yn ei waith Pathway of Knowledge a gyhoeddwyd ym 1551.
Penderfyniadau gwleidyddol annoeth fu"n gyfrifol am ei gwymp. Yn ystod y cyfnod cythryblus wedi marwolaeth y bachgen-frenin afiach, Edward VI ym 1553, dyrchafwyd Iarll Penfro hen elyn Recorde, yn un o ddynion mwyaf dylanwadol a phwerus y deyrnas. Yn annoeth iawn, fe geisiodd Recorde sicrhau fod Penfro yn cael ei arestio a"i roi i sefyll ei brawf.
Ymatebodd Penfro trwy erlyn Recorde am bardduo ei enw da. Cafwyd Recorde yn euog, a bu"n rhaid iddo dalu"r crocbris o £1,000 i Penfro. Ychydig wythnosau"n ddiweddarach, bu farw Recorde mewn carchar dyledwyr.
