
9. Robert Owen
Meddylwyr (1621 o bleidleisiau)
1771 – 1858
Entrepreneur, dyngarwr, a diwygiwr cymdeithasol oedd yn gweithredu ei egwyddorion.
Roedd Robert Owen yn eithriad i"r rheol. Tra bod gan llawer o"r diwydianwyr cynnar enw drwg am gymryd mantais o"u gweithwyr, roedd Owen yn hyrwyddo diwygiad cymdeithasol, gan ymdrechu i ddod â chyfnod y melinau tywyll satanaidd i ben. Dangosodd mai"r unig ffordd y gallai cyfalafiaeth oroesi oedd trwy drin gweithwyr yn deg.
Ganed Owen yn y Drenewydd yn Sir Drefaldwyn, a dechreuodd weithio pan oedd yn 9 oed mewn siop ddillad yn y dref. Ar ôl iddo ennill prentisiaeth, aeth i fyw a gweithio ym Manceinion, oedd ar y pryd yn ganolbwynt newid cymdeithasol ac economaidd. Er eu bod yn gwneud eu ffortiwn, roedd perchnogion y ffatrïoedd yn gyfrifol am rai o"r amodau gwaith mwyaf dychrynllyd a welwyd erioed. Nid oeddent chwaith yn cyflawni eu dyletswydd o ddilladu, lletya ac addysgu eu gweithwyr ifanc.
Roedd chwyldro yn y byd cynhyrchu tecstilau yng Ngogledd Orllewin Lloegr ac yn y maes hwn mentrodd Owen fynd i fusnes, gan gynhyrchu peiriannau nyddu i ddechrau, ac wedyn fel perchennog melin gotwm. Tra ar ymweliad â Glasgow i werthu ei gynnyrch, cyfarfu â David Dale a"i ferch Caroline, a briododd yn ddiweddarach. Ym 1799 prynodd Owen a"i bartneriaid busnes felin New Lanark oddi wrth Dale.
Yno, aeth Owen ati ar unwaith i weithredu ei egwyddorion. Cwtogodd ar yr oriau gwaith, cododd yr oedran dechrau gweithio, a dechreuodd wella amodau byw y gweithwyr, gan gynnwys agor siop oedd yn ailgylchu ei helw. Yn ddiweddarach sefydlodd gymuned debyg yn New Harmony yn yr Unol Daleithiau.
Ar sail y profiad hwn cafodd y mudiad cydweithredol ei sefydlu, ac fe baratôdd y ffordd ar gyfer y syniad diweddaraf o gymdeithas hapddalwyr. Mae cysylltiad hefyd rhwng y syniad o gymuned fodel a"r rhaglen Trefi Newydd ar ôl y rhyfel.
O"r mudiad cydweithredol y tarddodd y syniad o Undebau Llafur. Roedd Owen yn gysylltiedig â"r undebau cynnar er - yn gwisgo het perchennog melin o bosibl - nid oedd yn credu mewn streiciau.
Roedd syniadau Owen genedlaethau o flaen amser. Maent yn parhau i hysbysu ffordd o feddwl y rheiny sy"n credu bod pobl yn bwysicach nag elw.
