Roald Dahl

35. Roald Dahl

Pobl Greadigol (201 o bleidleisiau)

1916 – 1990

Awdur llyfrau plant mwyaf poblogaidd ei gyfnod sydd wedi gwerthu dros 50 miliwn o gopïau dros y byd.

Heb os, Roald Dahl yw"r Cymro mwyaf enwog o dras Norwyaidd. Cafodd ei eni i deulu cefnog o berchnogion llongau yng Nghaerdydd. Pan oedd yn astudio yn Ysgol Gadeiriol Llandaf daeth yn hoff iawn o felysion, a byddai hyn yn ddiweddarach yn ei ysbrydoli i ysgrifennu un o"i lyfrau mwyaf llwyddiannus.

Byddai enwogrwydd iddo fel awdur yn dod yn dipyn hwyrach mewn bywyd. Ar ôl gweithio fel gwerthwr olew yn Nhansanïa, ymunodd â"r Awyrlu Brenhinol yn Nairobi ar ddechrau"r Ail Ryfel Byd.

Ar ôl cael ei anafu"n ddrwg mewn damwain awyren a ddisgynnodd yn anialwch Gogledd Affrica, cafodd ei anfon i Washington fel Swyddog Awyr yn y Llysgenhadaeth Brydeinig. Tra"n gweithio yno, cyfarfu a CS Forrester - awdur cyfres enwog Hornblower - oedd yn digwydd gweithio ar gynllun propaganda yno. Gofynnodd i Dahl ysgrifennu ychydig nodiadau am ei brofiadau.

Creodd yr erthygl argraff dda ar Forrester a gyhoeddodd y cyfraniad heb iddo newid un gair. Gofynnodd i Dahl: "Ydych chi"n gwybod eich bod yn awdur?". O"r eiliad honno ymlaen, fe wyddai.

Cafodd rhan fwyaf o weithiau cynnar Roald Dahl eu hysgrifennu ar gyfer oedolion. Roedd casgliad o storïau byr, Over To You, yn llawn hanesion rhyfeddol ac erchyll. Cafodd y storïau yma eu dramateiddio"n ddiweddarach yng nghyfres deledu boblogaidd yr 1970au, Tales Of The Unexpected.

Ail gyneuodd ei ddiddordeb mewn ysgrifennu storïau i blant pan ddaeth yn dad. Ymddangosodd James And The Giant Peach am y tro cyntaf ym 1961 i dderbyniad cynnes iawn. Stori swrrealaidd a dweud y lleiaf. Roedd yn ffordd wreiddiol iawn o ysgrifennu ar gyfer plant.

Roedd Charlie And The Chocolate Factory, stori am blentyn tlawd yn ennill tocyn aur i sicrhau digon o siocled i bara am oes, hefyd yn llwyddiant ysgubol a pharhau i godi wnaeth statws Dahl. Cynhyrchwyd ffilm o"r stori gyda Gene Wilder yn chwarae"r prif ran, ond nid oedd yr awdur yn ffan mawr ohoni.

Bu farw ym 1993 heb i"w boblogrwydd bylu dim. Yn y flwyddyn 2000 cafodd ei gydnabod gan y ddinas lle y"i ganwyd, pan ailenwyd yr Oval Basin ym Mae Caerdydd yn Roald Dahl Plas.

Eich sylwadau chi

Mae ei lyfrau yn ysbrydoliaeth i blant ac oedolion, mae’n gawr!

Awdur y bydd ei lyfrau i blant yn bendant yn cael eu hystyried yn glasuron yn y dyfodol.

Yr awdur plant gorau erioed, mae gwneud darllen yn hwyl i blant, dychymyg byw.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru